Mae’r Cwestiynau Cyffredin hyn yn cynnig gwybodaeth gofal iechyd ar amrywiaeth o bynciau am gadw’n iach yn ystod eich ymweliad â’r Eisteddfod, neu fel person lleol sy'n byw yn ein rhanbarth.
Rydym hefyd wedi darparu dolenni i adnoddau ehangach, i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad â'r Eisteddfod, a allai fod eich ymweliad cyntaf â Rhondda Cynon Taf, sydd wedi'i leoli yn ardal hardd Cwm Taf Morgannwg.
Mae gen i gyflwr iechyd sylfaenol, neu gyflwr sy'n bodoli eisoes, beth ddylwn i ei wneud i gynllunio ar gyfer y digwyddiad?
Rydym wedi llunio rhywfaint o gyngor iechyd i'w ddarllen cyn i chi gyrraedd a thra byddwch yn yr ŵyl.
Mae Ap yr Eisteddfod hefyd ar gael o'r App Store a Google Play - Cwestiynau Cyffredin am yr Ŵyl | Eisteddfod
Rydw i wedi anghofio dod â'm meddyginiaeth, beth ddylwn i ei wneud?
Edrychwch ar ein cyngor ar beth i'w wneud os ydych wedi anghofio eich meddyginiaeth.
Rydw i wedi colli fy meddyginiaeth yn yr Eisteddfod, beth ddylwn i ei wneud?
Bydd ein tudalen bwrpasol ar reoli eich meddyginiaeth yn rhoi gwybodaeth ddefnyddiol i chi.
Mae angen cymorth meddygol arna i, beth ddylwn i ei wneud?
Bydd ein 'siop un stop' yn helpu i egluro sut i gael cymorth meddygol os oes ei angen arnoch - Eisteddfod - Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (gig.cymru)
Mae Ap yr Eisteddfod hefyd ar gael o'r App Store a Google Play - Cwestiynau Cyffredin am yr Ŵyl | Eisteddfod
Mae gen i broblem ddeintyddol frys, beth ddylwn i ei wneud?
Darllenwch ein canllawiau ar beth i’w wneud os oes angen gofal deintyddol brys arnoch yn yr Eisteddfod.
Mae gen i broblem ddeintyddol frys, beth ddylwn i ei wneud?
Os oes angen i chi gael mynediad at ofal llygaid brys yn yr Eisteddfod, fe welwch bopeth sydd angen i chi ei wybod yma - Gofal Llygaid Brys - Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (gig.cymru)
Rydw i wedi cael fy mrathu neu fy mhigo, beth ddylwn i ei wneud?
Ewch i wefan GIG 111 Cymru i gael gwybodaeth a chyngor dibynadwy.
Am gymorth meddygol nad yw'n frys, siaradwch ag aelod o staff yr Eisteddfod a fydd yn gallu eich helpu.
Rydw i wedi cael adwaith alergaidd, beth ddylwn i ei wneud?
Ewch i wefan GIG 111 Cymru i gael gwybodaeth a chyngor dibynadwy.
Am gymorth meddygol nad yw'n frys, siaradwch ag aelod o staff yr Eisteddfod a fydd yn gallu eich helpu.
Mae gen i bothelli poenus iawn, beth ddylwn i ei wneud?
Dewch yn barod gyda'r esgidiau cywir ar gyfer gŵyl.
Rydyn ni'n argymell gwisgo welingtons neu esgidiau cerdded os yw’n wlyb a/neu’n fwdlyd – peidiwch â gwisgo esgidiau newydd sbon am y tro cyntaf yn yr ŵyl, gwisgwch nhw cyn i chi gyrraedd a dewch â phlaster pothell gyda chi. A pheidiwch â gwisgo'r un esgidiau ar gyfer yr Eisteddfod gyfan.
Ewch i wefan GIG 111 Cymru i gael gwybodaeth a chyngor dibynadwy.
Am gymorth meddygol nad yw'n frys, siaradwch ag aelod o staff yr Eisteddfod a fydd yn gallu eich helpu.
Rydw i wedi llosgi fy hun yn yr haul, mae angen cymorth meddygol arna i
Un peth y gallwch chi bron â'i warantu os byddwch chi'n mynd i ŵyl yn y DU yn yr haf yw tywydd eithafol - naill ai'n rhy boeth, yn rhy wlyb neu'n rhy oer! Mae'n well dod yn barod ar gyfer pob math o dywydd, felly cotiau, welingtons, hetiau haul a sbectol haul.
Darllenwch ein canllawiau ar amddiffyn rhag yr haul - Amddiffyn rhag yr haul - Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (gig.cymru)
Mae digon o fannau dŵr felly dewch â photel ddŵr y gellir ei hail-lenwi gyda chi!
Rwy'n teimlo'n sychedig, beth ddylwn i ei wneud?
Yfwch ddigon o ddŵr, ceisiwch aros allan o'r haul a gwisgwch sbectol haul da ac o leiaf eli haul ffactor 30.
Mae digon o fannau dŵr felly dewch â photel ddŵr y gellir ei hail-lenwi gyda chi.
Mae cyngor ac arweiniad penodol ar yfed digon o ddŵr yn ystod yr Eisteddfod ar gael yma - Yfed digon o ddŵr - Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (gig.cymru)
Mae rhagor o wybodaeth gyffredinol am fwynhau’r tywydd yn ddiogel ar gael yma - Y tywydd - Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (gig.cymru)
Darllenwch ein canllawiau ar amddiffyn rhag yr haul - Amddiffyn rhag yr haul - Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (gig.cymru)
Rydw i gyda rhywun sydd wedi yfed gormod o alcohol
Os oes angen cymorth meddygol arnoch chi neu rywun sydd gyda chi, siaradwch â'r stiwardiaid iechyd ar y safle a fydd yn gallu helpu.
Cael gwybodaeth am fynediad i wasanaethau gofal iechyd a chefnogaeth yn yr Eisteddfod.
Rydyn ni wedi llunio rhywfaint o gyngor iechyd i'w ddarllen cyn i chi gyrraedd a thra byddwch chi yn yr ŵyl - Iechyd Maes B - Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (gig.cymru)
Rwy'n meddwl efallai bod rhywun wedi cymryd cyffuriau, beth ddylwn i ei wneud?
Os oes angen cymorth meddygol arnoch chi neu rywun sydd gyda chi, siaradwch â'r stiwardiaid iechyd ar y safle a fydd yn gallu helpu.
Cael gwybodaeth am fynediad i wasanaethau gofal iechyd a chefnogaeth yn yr Eisteddfod.
Rydyn ni wedi llunio rhywfaint o gyngor iechyd i'w ddarllen cyn i chi gyrraedd a thra byddwch chi yn yr ŵyl - Iechyd Maes B - Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (gig.cymru)
Mae gen i bryder iechyd rhywiol
Darllenwch ein canllawiau iechyd rhywiol - Iechyd Rhywiol - Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (gig.cymru)
Os oes angen cymorth meddygol arnoch yn yr Eisteddfod, dilynwch ein harweiniad o dan 'Mynediad at Wasanaethau a Chymorth Gofal Iechyd' - Eisteddfod - Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (gig.cymru)
Dwi angen atal cenhedlu brys
Os oes angen atal cenhedlu brys arnoch yn yr Eisteddfod, darllenwch ein canllawiau iechyd rhywiol yma.
Dwi angen cefnogaeth gyda fy iechyd meddwl, ble alla i gael help?
Darllenwch ein cyngor ar wybodaeth iechyd meddwl.
Mae fy mhlentyn / plant yn gwersylla ar MAES B, a fydd unrhyw gymorth gofal iechyd ar gael?
Rydym wedi rhoi gwybodaeth iechyd arbennig Maes B at ei gilydd ar gyfer ymwelwyr.
Mae Ap yr Eisteddfod hefyd ar gael o'r App Store a Google Play - Cwestiynau Cyffredin am yr Ŵyl | Eisteddfod
I gael cymorth meddygol yn yr Eisteddfod, dilynwch ein cyngor o dan 'Mynediad at Wasanaethau a Chymorth Gofal Iechyd' - Eisteddfod - Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (gig.cymru)
Sut mae cael gwybod am y cyfleoedd Cymraeg yn CTM?
Mae ein Mentrau Iaith lleol yn creu cyfleoedd lle gall unrhyw un fwynhau defnyddio’r Gymraeg sydd gyda nhw bob dydd o fewn eu cymunedau. O weithgareddau i deuluoedd, pobl ifanc i rai sy'n newydd i'r iaith, mae Mentrau Iaith i bawb! Cymerwch olwg ar beth sy'n digwydd yn eich ardal leol!
Mae gen i gwestiwn cyffredinol am yr Eisteddfod, ble alla i ddod o hyd i wybodaeth a chyngor?
Bydd gwefan yr Eisteddfod Genedlaethol yn rhoi rhagor o wybodaeth i chi neu gallwch siarad ag aelod o staff yr Eisteddfod ar y safle.
Rwy'n ymweld â Rhondda Cynon Taf am y tro cyntaf, beth sydd i'w wneud yn yr ardal?
Edrychwn ymlaen at eich croesawu i gyd i'n rhanbarth hardd yr haf hwn - mae cymaint i'w ddarganfod. Cynlluniwch eich ymweliad â Rhondda Cynon Taf.