Neidio i'r prif gynnwy

CTM Ar Y Maes - Beth Sydd Ymlaen

Edrychwch allan am Gwm Taf Morgannwg yn siarad yn y Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Beth Sydd Ymlaen Yr Wythnos Hon

Dydd Sadwrn - 03/08/24
Y Gymraeg yng Nghwm Taf Morgannwg: Mae'n perthyn i ni i gyd

10am

Croeso gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

12 canol dydd

Da Iawn: Cynllun Codi Hyder Cwm Taf Morgannwg. Seremoni gydnabod ar gyfer ein carfan
staff cyntaf (mewn partneriaeth â Dysgu Cymraeg Morgannwg)

2pm

Ymunwch â CTM: Gwnewch Gwm Taf Morgannwg Eich Dyfodol: Dewch i gwrdd â’n staff,
dysgwch am y 200+ o broffesiynau rydym yn eu cynnig a darganfod sut beth yw gweithio i ni.
Rydym yn chwilio am bobl sy’n gallu ein helpu ni i wneud gwahaniaeth.

Dydd Sul - 04/08/24
Byw yn dda i chi a'ch teulu

10am

Symud ar y Maes: Heriau gweithgaredd 60 eiliad llawn hwyl a sbri i’r teulu cyfan

12 canol dydd

Ymwybyddiaeth o Faeth: Gweithgareddau rhyngweithiol yn archwilio faint o siwgr sydd mewn
bwyd a diodydd

2pm

Eich Lles: Gweithgareddau sy’n annog y 5 Ffordd at Les

3pm

Mae Eich Iechyd Rhywiol yn Bwysig: Dewch draw i siarad â’n tîm

Bydd ein Tîm Iechyd Cyhoeddus ar gael drwy’r dydd i drafod amrywiaeth o bynciau gan
gynnwys maeth, cymorth Helpa Fi i Stopio ac imiwneiddiadau, i’ch cadw chi a’ch teulu yn
iach ac yn hapus

Dydd Llun - 05/08/24
Cadw’n iach wrth aros am driniaeth

Gweithio gyda chi i wella canlyniadau iechyd: Beth sydd fwyaf pwysig i chi?

10am

Cyflwyniad i fyfyrdod gyda Dr Liza

1pm

Rhoi Organau yn Ne Cymru - Gadael Sicrwydd iddyn nhw: Gallai 2 funud nawr arbed hyd at
9 o fywydau, Dewch i siarad â ni

2pm

Ymunwch â CTM: Gwnewch Gwm Taf Morgannwg Eich Dyfodol

Trwy'r dydd

Cyngor arbenigol, awgrymiadau ac offer i gefnogi gyda:

  • Rheoli Poen
  • Rheoli Straen
  • Gweithgarwch Corffor

Siaradwch â’n gweithwyr iechyd proffesiynol a’n hyfforddwyr lles

Dydd Mawrth - 06/08/24Cefnogi teuluoedd o’r
cychwyn cyntaf 0-18 oed:
Cymorth i blant blynyddoedd cynnar a phlant oed ysgol

10am

Arddangosiad Tylino Babanod

11am

Rheoli peryglon plant, gan gynnwys tagu

12pm

Bwydo eich babi

1pm

Gofynnwch i’r arbenigwyr: Bydwragedd, Ymwelwyr Iechyd a Nyrsys Ysgol

2pm

Dewch i Siarad am Ddannedd gyda’r Tîm Cynllun Gwên: Cefnogaeth iechyd y geg i’ch plentyn, a’r teulu ehangach (arddangosiadau ar drafferthion torri dannedd, brwsio dannedd, diddyfnu, dymis a photeli, byrbrydau iach i’ch dannedd, ymweld â’r deintydd)

Selfies gyda Dewi’r Ddraig, y masgot cenedlaethol, a derbyn pecyn deintyddol am ddim

Dydd Mercher - 07/08/24
Datblygu’n dda fel plant

Trwy'r dydd

Datblygwch eich gwybodaeth am gefnogi iechyd a datblygiad eich plentyn.
O ddysgu am weithgarwch corfforol a bwyta’n iach, i ofal iechyd y geg a chyfathrebu
- gwybodaeth a gweithgareddau rhyngweithiol i’ch teulu.

Siaradwch â’n harbenigwyr

Dydd Iau - 08/08/24
Byw yn dda fel oedolion

Trwy'r dydd

Diwrnod wedi’i neilltuo i’r offer ar gyfer byw’n dda a ffynnu mewn bywyd:
Beth i’w fwyta i gadw’n iach, iechyd meddwl a lles, gweithgarwch corfforol ... a llawer mwy!

Rhowch eich cwestiynau i’n harbenigwyr. Bydd ein harbenigwyr yn cynnig cyngor cardiofasgwlaidd AM DDIM ar ein stondin hefyd!

Dydd Gwener - 09/08/24
Gorsaf Germau

Profwch eich gwybodaeth am sut mae bacteria yn lledaenu yn ystod y sesiynau rhyngweithiol hyn ar gyfer y teulu cyfan


10am

Super Sneezes

12 canol dydd

Horrid Hands

2pm

Mania Microb

Siaradwch â'n harbenigwyr Atal Heintiau

Dydd Sadwrn - 10/08/24
Heneiddio'n dda gyda hyder

Trwy'r dydd

Atal achosion o gwympo: Sut i adnabod a delio â pherygl, bwydydd i aros yn gryf.
Ydych chi’n poeni am Ddementia? Hoffech chi wybod mwy? Rydyn ni yma i helpu.

Siaradwch â'n harbenigwyr Therapïau

I lawrlwytho fersiwn PDF o'r rhaglen cliciwch yma.

Am fersiwn hawdd ei darllen o'r rhaglen cliciwch yma.
Dilynwch ni: