Yn ddiweddar, cwblhaodd yr Adran Addysg Feddygol ei wythfed cwrs blynyddol 'Sgiliau Addysgu ar gyfer Meddygon' yn Ysbyty Tywysoges Cymru.
Mae cleifion CTM sy'n byw gydag effaith canser y pen a'r gwddf wedi treialu dyfais sy'n helpu i ymarfer corff a chryfhau'r cyhyrau sy'n gysylltiedig â llyncu ac anadlu yn llwyddiannus.
Neges gan Amanda Farrow, Cyfarwyddwr Clinigol ein Hadrannau argyfwng yn CTM.
Bydd Tîm Profiad y Bobl Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn cynnal Sioe Deithiol Gwybodaeth ac Adborth i staff ac aelodau'r cyhoedd yn Ysbyty Cwm Cynon, Aberpennar, ddydd Mawrth 22 Hydref 2024, rhwng 9am a 4pm.
Neithiwr fe wnaeth ein staff mamolaeth, gynaecoleg, newyddenedigol, profedigaeth, a chaplaniaeth arwain gwasanaethau Ton o Oleuni i anrhydeddu’r babanod rydyn ni wedi’u colli yn anffodus.
Cafodd Phil ei gwahodd i gymryd rhan yn y cynllun peilot Gwiriad Iechyd yr Ysgyfaint a ganfu amheuaeth o ganser yr ysgyfaint.
O ddydd Llun 14 Hydref, mae’r Ganolfan Frechu Cymunedol sydd ar hyn o bryd yn Ysbyty Glanrhyd yn symud i Ysbyty Tywysoges Cymru yn yr hen Adran Iechyd Galwedigaethol.
Mae ein bwrdd iechyd, mewn partneriaeth â Phartneriaeth Ranbarthol CTM, Cwm Taf People First a People First Bridgend yn cydweithio i hyrwyddo pwysigrwydd gwiriadau iechyd blynyddol i bobl ag anableddau dysgu.
Mae'n Ddiwrnod Menopos y Byd ar 18 Hydref ac mae ein Bwrdd Iechyd wedi cynllunio digwyddiad i'ch helpu a'ch cefnogi i baratoi ar gyfer y Menopos a llywio'ch ffordd drwyddo.
Yn dilyn problemau parhaus yn Ysbyty Tywysoges Cymru gyda dŵr glaw yn dod i mewn i'r adeilad drwy'r to, mae contractwyr arbenigol wedi cynnal arolwg llawn o gyflwr to'r prif adeilad ar draws y safle.
Cynhelir Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod bob blwyddyn rhwng 9 a 15 Hydref. Eleni rydym yn helpu i nodi ei 22ain flwyddyn.
Dydd Sadwrn 5 Hydref yw Diwrnod Meningitis y Byd.
Yn ddiweddar, ymwelodd dau ffrind lleol â ward y plant yn Ysbyty Tywysoges Cymru sydd wedi cyd-ysgrifennu llyfr a rhoi copïau i'r ward.
Mae gwaith brys ar y gweill yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr, lle darganfuwyd bod dŵr glaw yn gollwng i'r adeilad.
Drwy gydol mis Hydref byddwn yn cynnal digwyddiadau ymgysylltu a sesiynau dysgu ar gyfer ein holl staff i dynnu sylw at bwysigrwydd Mis Hanes Pobl Ddu ac i helpu i ddatblygu ein hymrwymiadau o dan Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-Hiliol.
Mae’r astudiaeth QuicDNA wedi gwneud darganfyddiadau pwysig o ran diagnosis canser yr ysgyfaint ac mae newydd gyrraedd carreg filltir bwysig wrth i’r prosiect gael ei gyflwyno mewn chwech Bwrdd Iechyd yng Nghymru.
Mae gwasanaeth Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT) Ar-lein GIG Cymru wedi sefydlu llwybr atgyfeirio newydd gyda'r tîm amenedigol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BIPCTM).
Wrth i ni fynd i mewn i'r penwythnos, mae ein hysbytai eisoes yn hynod o brysur. Yn ogystal, rydym yn rheoli effeithiau’r tywydd garw, gwlyb ar Ysbyty Tywysoges Cymru sy’n achosi rhywfaint o aflonyddwch ar y safle hwn.
Rydym yn dechrau gweld mwy o salwch, fel 'ffliw, annwyd, ac anhwylderau bol yn ein cymunedau ac mewn ysbytai. Dyma beth allwch chi ei wneud i helpu'r GIG i gadw anhwylderau i ffwrdd.