Neidio i'r prif gynnwy

Arolwg Profiad Cleifion ar gyfer Cyfranogwyr Ymchwil yng Nghymru

Mae Eich Llais chi yn Bwysig

Arolwg Profiad Cleifion ar gyfer Cyfranogwyr Ymchwil yng Nghymru

 

Beth ydyw?

Arolwg byr, cyfrinachol am eich profiad o gymryd rhan mewn ymchwil, i helpu i wella’r ffordd y mae ymchwil yn cael ei gyflwyno ledled Cymru.

Pwy all gymryd rhan?

Unrhyw un sydd wedi cael apwyntiad ymchwil neu weithgaredd yn ymwneud â’r astudiaeth.

Beth fydd yn cael ei ofyn i chi?

  • Pa mor glir yr esboniwyd yr astudiaeth
  • Yr wybodaeth a gawsoch
  • Eich ymwneud â staff ymchwil
  • Faint o gysur a chefnogaeth a gawsoch
  • Eich profiad cyffredinol o gymryd rhan mewn ymchwil

Pa mor hir mae'n ei gymryd?

Tua 10 munud.

Sut ydw i'n ei gwblhau?

Sganiwch y cod QR ar eich ffôn neu gofynnwch i’r staff am ffyrdd eraill o gymryd rhan (papur neu e-bost, lle bo ar gael).

Pam mae eich adborth yn bwysig:

  • Yn helpu i wella profiad cleifion
  • Yn llunio sut mae ymchwil yn cael ei chyflwyno yng Nghymru
  • Yn gwneud ymchwil yn fwy hygyrch a chynhwysol i bawb

Mae cymryd rhan yn wirfoddol ac ni fydd unrhyw effaith ar eich gofal.

Hefyd ar gael yn:

  • Cymraeg
  • Pwyleg
  • Rwmaneg
  • Punjabi
  • Wrdw
  • Portiwgaleg
  • Sbaeneg
  • Bengaleg
  • Gwjarataidd
  • Arabeg
  • Eidaleg
  • Hawdd ei Ddarllen
  • Iaith Arwyddion Prydain
Dilynwch ni: