Neidio i'r prif gynnwy

Hamdden a Teithio Iach

Eiconau cylchol o berson yn cerdded, beic, bws, trên a char trydan

Cefndir

Mae lefelau is o weithgarwch corfforol, lefelau cynyddol o ordewdra a diabetes, llygredd aer eang, arwahanu cymdeithasol, ac anghydraddoldebau iechyd i gyd yn broblemau difrifol o ran iechyd y cyhoedd. ​ ​Mae patrymau newidiol yn y ffordd rydym yn teithio a sut rydym yn dylunio ein hamgylcheddau ar gyfer teithio wedi chwarae rhan arwyddocaol yn y broblemau hyn. Mae angen cymryd camau beiddgar os ydym am wrthdroi’r tueddiadau hyn mewn poblogaeth ac iechyd byd-eang, a chreu dyfodol iachach a mwy cynaliadwy i’n trigolion.

Creu Newid

Bydd y Tîm Pwysau Iach yn blaenoriaethu adnoddau i arwain a galluogi newid system i ddylanwadu ar ddyluniad a defnydd ein mannau cymunedol, ond ni allwn wneud hynny ar ein pen ein hunain. Dros y 18 mis diwethaf rydym wedi datblygu rhwydwaith cynyddol o randdeiliaid sydd â'r pŵer i greu newid cadarnhaol i'n system. Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda'n cymunedau i ddeall eu hanghenion yn well a chefnogi gwelliannau ystyrlon.

Ein Ffocws

Rydym yn gweithio gyda phartneriaid system ac yn gwrando ar leisiau cymunedol i arwain a galluogi newid system i ddylanwadu ar ddyluniad a defnydd mannau cymunedol yn Cwm Taf Morgannwg. Ein meysydd ffocws yw:

  • Lansio’r siarter teithio iach ar gyfer sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus ar draws Cwm Taf Morgannwg
  • Annog pobl i gymryd camau gweithredu siarter
  • Creu rhwydwaith o hyrwyddwyr teithio iach
  • Gweithio’n agos gydag arweinwyr teithio llesol a chefnogi newidiadau i seilwaith (yn seiliedig ar anghenion sy’n cael eu nodi trwy ymholiad gwerthfawrogol ac ymgysylltu â rhanddeiliaid)
  • Archwilio cyfleoedd ar gyfer siarter teithio iach ar gyfer y sector preifat. 
  • Cysylltu ag Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gynllun peilot teithio llesol i’r ysgol, rhannu canlyniadau ag addysg.
  • Archwilio cyfleoedd i weithio ar wneud i’n cymunedau deimlo’n fwy diogel – meithrin perthnasoedd â rhanddeiliaid priodol

Parhau i gefnogi gweithrediad gweithgarwch corfforol a chwaraeon ar draws Cwm Taf Morgannwg.

Darllen pellach:

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am Fannau Cymunedol a Theithio Llesol yng Nghwm Taf Morgannwg, cysylltwch â CTM.HealthyWeight@wales.nhs.uk.

Dilynwch ni: