Neidio i'r prif gynnwy

Blociau Adeiladu ar gyfer Cwrs Cyfathrebu

 

Atgyfeiriwyd eich plentyn yn ddiweddar at y Gwasanaeth Therapi Iaith a Lleferydd.

Awgrymodd y wybodaeth atgyfeirio a y gallai’r isod fod yn berthnasol i’ch plentyn:

  • Cael anawsterau wrth gyfathrebu'n gymdeithasol ag eraill
  • Yn ei chael yn anodd cyfathrebu ei anghenion

Gall plant sy'n profi'r mathau hyn o anawsterau/gwahaniaethau profi’r canlynol:

  • Bod gyda dim neu ychydig o eiriau
  • Mae'n well gyda fe dreulio amser ar ei ben ei hun
  • Ddim yn dechrau rhyngweithio yn aml iawn
  • Defnyddio llai o fynegiant wyneb, cyswllt llygaid ac ystumiau fel ffyrdd i gyfathrebu yn lle siarad

Gall y plant hyn fod angen cymorth ychwanegol i gyfathrebu'n effeithiol.
Gwnawn hyn drwy addasu ein harddull cyfathrebu a’r amgylchedd.

Beth yw Blociau Adeiladu?

Mae Blociau Adeiladu ar gyfer Cyfathrebu yn weithdy rhieni sydd wedi'i gynllunio ar gyfer anghenion penodol eich plentyn. Nod y canllawiau yw:

  • Rhoi dealltwriaeth lawn i chi o lefel cyfathrebu eich plentyn
  • Nodi cryfderau cyfathrebu eich plentyn
  • Cynyddu eich hyder wrth gefnogi anghenion cyfathrebu eich plentyn

Yn ystod y gweithdy, rydym yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau ‘blociau adeiladu’ eich plentyn sy’n hanfodol ar gyfer cyfathrebu/datblygu iaith.

Beth mae'r cwrs Blociau Adeiladu yn ei olygu?

Mae'r gweithdai yn cael eu cynnal gan therapyddion iaith a lleferydd lleol ac maen nhw’n cynnwys:

  • 4 sesiwn grŵp x 90 munud. Mae'r rhain yn cael eu cynnal wyneb yn wyneb neu'n rhithwir.
  • Llyfr gwaith rhieni i weithio drwyddo ochr yn ochr â'r sesiynau. (Gallwch ddod o hyd i'r llyfr gwaith hwn isod).
  • Cyfeirio at asiantaethau priodol eraill.
  • Canllawiau ar sut a phryd i atgyfeirio eich plentyn am gymorth pellach gan y Gwasanaeth Therapi Iaith a Lleferydd.

Sut i sicrhau lle

Ffoniwch 01685 351300 neu e-bostiwch CTT_ChildrenSpeechandLanguage@wales.nhs.uk i archebu eich lle.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni a byddwn yn hapus i'ch helpu.

Beth sy'n digwydd ar ôl y cwrs Blociau Adeiladu?

Dewch o hyd i'n taflen wybodaeth isod o dan Ddogfennau Defnyddiol o'r enw 'Gwybodaeth am pryd a sut i ailgyfeirio at SLT ar ôl mynychu Cwrs Cyfathrebu Blociau Adeiladu'. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni i drafod ymhellach.

Hyfforddiant Blociau Adeiladu ar gyfer lleoliadau Blynyddoedd Cynnar

Rydym hefyd wedi cynnal hyfforddiant ar gyfer amrywiaeth o bobl sy'n gweithio gyda phlant Blynyddoedd Cynnar gan gynnwys lleoliadau cyn-ysgol.

Os ydych yn Lleoliad Blynyddoedd Cynnar neu'n gweithio mewn Lleoliad Blynyddoedd Cynnar a heb gael yr Hyfforddiant Blociau Adeiladu - cysylltwch â'r gwasanaeth i drafod hyn ymhellach.

Mae'r dogfennau ar gyfer yr hyfforddiant hwn wedi'u hatodi isod.

Rydyn ni’n edrych ymlaen at eich gweld chi yno.

Therapi Iaith a Lleferydd (SALT)

Dogfennau Defnyddiol

Dolenni Defnyddiol

Dilynwch ni: