Yn aml, mae poen traed a migwrn yn achosi anghysur wrth wneud gweithgareddau dyddiol a gall hyn ddigwydd ar unrhyw adeg yn ystod bywyd unigolyn. Ni yw'r arbenigwr mewn asesu’r problemau hyn, rhoi diagnosis ohonynt a delio â nhw.
Rydyn ni’n canolbwyntio ar reoli cyflyrau sy'n effeithio ar y cyhyrau, y feinwe feddal a chymalau'r traed a’r coesau. Mae ein gwasanaeth cyhyrysgerbydol hefyd yn arbenigo mewn cyflyrau sy’n gyffredin ymysg plant a phobl ifanc.
Ein nod yw datrys neu leihau'r effaith drwy eich helpu i ddeall a thrin eich cyflwr ar y migwrn neu’r droed.
Gall Podiatreg Gyhyrysgerbydol helpu gyda nifer o broblemau cyhyrol ac orthopedig. Ymhlith enghreifftiau o'r rhain mae:
Gall meddygon teulu neu unrhyw ddarparwr gofal iechyd cydnabyddedig arall eich cyfeirio at y gwasanaeth, neu fel arall gallwch chi hunangyfeirio.
Dydd Llun i ddydd Gwener 9yb – 4.30yp.
Yn ystod eich asesiad, bydd cyfres o brofion gan gynnwys profion eistedd i sefyll a phrofion cerdded. Byddwn ni’n edrych ar gryfder y cyhyrau a gallu’r cymalau i symud. Mae’n bosib y bydd angen sganiau uwchsain, pelydr-X neu MRI arnoch chi. Bydd y Podiatrydd yn trafod yr opsiynau o ran triniaeth a byddwch chi’n cytuno gyda'ch gilydd ar y cynllun triniaeth sydd fwyaf addas i chi. Gallai hwn gynnwys;-
Ysbyty'r Bwthyn Pontypridd
Y Comin
Ffordd yr Ysbyty
Pontypridd
CF37 4AL