Neidio i'r prif gynnwy

Orthoteg

Rydyn ni’n darparu gwadnau mewnol, bresys, sblintiau, caliperau, esgidiau, siacedi ar gyfer yr asgwrn cefn a helmedau ar bresgripsiwn. Yr enw ar bob un o’r rhain yw orthosis neu, os bydd mwy nag un, orthoses.  

Mae orthoses yn Ddyfeisiau Meddygol Dosbarth 1 sy’n cael eu darparu i helpu pobl i osgoi anaf, gwella ar ôl anaf neu i fyw gyda chyflyrau gydol oes. 

Gall darparu’r orthosis iawn a’i ffitio’n gywir helpu i wella ansawdd bywyd drwy leihau poen, sicrhau bod pobl yn gallu symud a byw’n annibynnol ac atal triniaethau mewnwthiol mwy drud fel llawdriniaeth, trychiad (torri rhan o'r corff i ffwrdd), neu’r angen am ofal cymdeithasol.

I bwy mae’r gwasanaeth?

Mae orthotydd yn weithiwr gofal iechyd proffesiynol sy’n gwneud, yn asesu ac yn ffitio bresys, sblintiau ac esgidiau ar bresgripsiwn. Mae’n helpu pobl sydd angen mwy o gymorth ar gyfer rhannau o’r corff sydd wedi eu gwanhau oherwydd anaf, afiechyd neu anhwylderau ar y nerfau, y cyhyrau neu’r esgyrn.

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Mae’r Gwasanaethau Orthoteg yn wasanaeth trydyddol yn ein Bwrdd Iechyd.  Mae’n bosib y bydd eich ymgynghorydd, neu therapydd sydd wedi cofrestru â’r Cyngor Proffesiynau Gofal ac Iechyd, yn eich atgyfeirio chi at y gwasanaeth hwn.

Beth i'w ddisgwyl

PWYSIG: Dewch ag unrhyw ddyfeisiau orthotig rydych chi wedi eu cael.

Bydd yr orthotydd yn cynnal gwerthusiad llawn o’r claf cyn creu cynllun triniaeth fydd, gan amlaf, yn cynnwys rhoi cynnyrch orthotig (orthosis) neu gynhyrchion orthotig (orthoses) i’r claf. 

Bydd yr orthotydd yn sicrhau mai’r orthosis ar bresgripsiwn fydd yr opsiwn mwyaf priodol i ddiwallu anghenion clinigol y claf a bod dymuniadau’r claf yn cael blaenoriaeth. 

Mae’n bosib y bydd yr orthotydd yn cymryd mesuriad neu argraff neu bydd yn cynnal sgan er mwyn sicrhau bod orthosis o'r maint iawn yn cael ei roi i’r claf.  Mae’n bosib y byddwch chi’n cael orthosis parod yn eich apwyntiad cyntaf, ond yn aml bydd angen archebu neu wneud orthosis yn arbennig i chi. Os felly, bydd angen rhagor o apwyntiadau arnoch chi. 

Pan fyddwch chi’n cael eich dyfais, bydd yr orthotydd yn esbonio beth ddylech chi ei ddisgwyl gan eich orthosis a ble a sut i’w wisgo. Mae’n bosib y bydd apwyntiad adolygu yn cael ei drefnu er mwyn gwirio’r orthosis neu mae’n bosib y byddwch chi’n cael cerdyn cyswllt er mwyn i chi dynnu sylw at unrhyw broblemau. 

Mae’r Gwasanaeth Orthotig yn darparu gofal i gleifion mewnol a chleifion allanol ac i blant ac oedolion mewn nifer o ysbytai ledled ardal ein Bwrdd Iechyd. Mae GIG Cymru yn cynnig y gwasanaeth hwn yn rhad ac am ddim.

Ar ôl cael eich dyfais

Mae’r ddyfais wedi cael ei phresgripsiynu ar eich cyfer chi yn unig ac rydych chi’n ei chael hi ar fenthyg hirdymor gan ein Bwrdd Iechyd. Ddylai neb arall ddefnyddio’r ddyfais oherwydd gallai hyn achosi niwed iddo. 

Bwriwch olwg dros eich dyfais bob tro y byddwch chi'n ei defnyddio, i wneud yn siŵr nad yw wedi treulio'n ormodol. Eich cyfrifoldeb chi yw cadw’r ddyfais mewn cyflwr da.  

Weithiau, mae’n bosib y bydd eich siop trwsio esgidiau leol yn gallu trwsio esgidiau ar bresgripsiwn. Bydd eich orthotydd yn dweud wrthych chi os felly.  Ar gyfer pob math arall o ddyfais, cysylltwch â’r clinig roddodd y ddyfais i chi am gyngor neu am apwyntiad.

Os bydd angen dyfais newydd arnoch chi

Mae’n amhosib rhagweld pa mor hir yn union y bydd dyfais orthotig yn para. Os bydd angen dyfais hirdymor arnoch chi, byddwn ni’n rhoi dyfais newydd i chi pan fydd yr hen un wedi torri heb fod modd ei thrwsio.  

Cysylltwch â’r clinig roddodd eich dyfais i chi os bydd y ddyfais wedi cael ei threulio’n ormodol neu os byddwch chi’n cael trafferth yn ei gwisgo. Pan fyddwch chi’n dod i’r clinig, bydd angen i chi ddod â’r holl ddyfeisiau rydych chi wedi eu cael.

Cysylltu â'r Gwasanaethau Orthotig
Ysbyty Brenhinol Morgannwg: 01443 443290
Ysbyty Cwm Rhondda: 01443 430022 Est 72478
Ysbyty'r Tywysog Siarl: 01684 712308
Ysbyty Cwm Cynon: 01443 715119

Dilynwch ni: