Mae un neu ddau o fabanod ym mhob 1000 yn cael eu geni â cholled clyw. Bydd y rhan fwyaf o'r babanod hyn yn cael eu geni i deuluoedd lle nad oes gan neb arall golled clyw. Mae darganfod yn gynnar yn bwysig ar gyfer datblygiad eich babi. Mae hyn yn golygu y gallwch gael mwy o gefnogaeth a gwybodaeth i'ch helpu chi a'ch babi.
Mae sgrinio clyw yn dweud wrthym pa fabanod a allai fod â cholled clyw. Mae'r prawf sgrinio yn dangos i ni pa fabanod sydd angen mwy o brofion i benderfynu a oes ganddyn nhw golled clyw.
Nid yw sgrinio yn canfod pob colled clyw nac yn atal anawsterau clywed yn y dyfodol. Cliciwch ar y ddolen isod am ragor o wybodaeth.