Mae sgrinio serfigol yn gallu atal canser ceg y groth rhag datblygu neu’n gallu ei ganfod yn gynnar. Bydd y prawf sgrinio serfigol (smear) yn chwilio am fathau risg uchel o'r Papilomafirws Dynol (HPV) a all achosi newidiadau celloedd ar y serfics. Gall canfod newidiadau celloedd atal canser ceg y groth rhag datblygu. Mae menywod a phobl â serfics rhwng 25 a 64 oed yn gallu cael sgrinio serfigol yng Nghymru.
Cliciwch ar y ddolen am rai taflenni defnyddiol:
https://icc.gig.cymru/gwasanaethau-a-thimau/sgrinio/sgrinio-serfigol-cymru2/
Gallwch trefnu eich prawf ceg y groth drwy eich meddyg teulu neu glinig iechyd rhywiol lleol.