Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Myfyrio ar Enedigaeth

Ar ôl eich genedigaeth... Hoffem gynnig ein llongyfarchiadau ar enedigaeth eich babi, a gobeithiwn fod eich profiad gyda ni wedi bod yn un hynod gadarnhaol.  Mae genedigaeth babi yn brofiad sy'n unigryw i bob person, a theulu. Gan fod pob genedigaeth yn wahanol felly, rydym ni’n gobeithio eich bod yn teimlo i chi gael y gefnogaeth iawn a’n bod ni wedi gwrando arnoch chi yn ystod eich cyfnod yn ein gofal. P'un a oedd eich genedigaeth yn un syml neu'n fwy cymhleth, dylai eich bydwragedd a'ch obstetryddion fod wedi cynnig trafodaeth i chi, i gael gwybodaeth am eich genedigaeth ac i roi’r cyfle i chi ofyn cwestiynau a gofyn am esboniadau. Rydym ni’n annog menywod i drafod eu profiad gyda’u bydwraig, neu aelod arall o'r tîm mamolaeth cyn i chi fynd adref, ac hefyd dylai eich bydwraig gymunedol gynnig gwneud hyn yn ystod y dyddiau cyntaf gartref.  

Rydym ni’n gobeithio y gallwn ni roi unrhyw gefnogaeth, sicrwydd ac esboniadau i chi y gallai fod eu hangen arnoch. Rydym ni’n deall, i rai menywod, y gallai  beichiogrwydd a rhoi genedigaeth fod yn gyfnod anodd neu heriol am lawer o resymau gwahanol.  Rydym ni’n cydnabod y gall gymryd peth amser ar adegau i brosesu eich meddyliau a'ch profiad. 

Os bydd cwestiynau gyda chi o hyd sydd heb eu hateb ar ôl y 6-8 wythnos gyntaf wedi genedigaeth eich babi, ac os ydych chi’n dymuno trefnu apwyntiad gydag aelod o'n tîm i drafod eich profiad ymhellach, mae croeso i chi drefnu hyn drwy anfon eich enw a'ch manylion cyswllt at y cyfeiriad e-bost canlynol: CTM.Afterthoughts@wales.nhs.uk (Os na allwch gael mynediad at e-bost, bydd eich bydwraig gymunedol neu Ymwelydd Iechyd hefyd yn gallu eich cefnogi trwy anfon atgyfeiriad ar eich rhan). Byddwn yn cysylltu â chi yn y lle cyntaf dros y ffôn i adnabod y person mwyaf priodol i drafod y cwestiynau gyda chi a rhoi esboniadau i chi. Yna, byddwch yn cael cynnig apwyntiad (gall hyn fod yn apwyntiad dros y ffôn neu apwyntiad ar-lein), lle byddwn yn cynnig mynd trwy eich nodiadau gyda chi a thrafod eich profiad i roi esboniadau a gwybodaeth i chi am y gofal a gawsoch chi. Rydym yn gobeithio y byddwch yn gallu myfyrio ar eich profiad a gofyn unrhyw gwestiynau sydd gyda chi. 

Dilynwch ni: