Neidio i'r prif gynnwy

Diogelwch ceir

Mae seddi car yn hanfodol ar gyfer diogelwch eich babi wrth yrru, ond ni ddylai babanod gysgu ynddyn nhw am gyfnodau hir. Mae ymchwil wedi canfod y gallai babanod ifanc fod mewn perygl o anawsterau anadlu os ydyn nhw’n cysgu'n unionsyth mewn safle eistedd am ormod o amser. 

Seddi ceir a lleihau'r risg o SIDS 

Dilynwch yr awgrymiadau hyn i helpu i gadw'ch babi yn ddiogel wrth deithio mewn sedd car. 

Osgowch yrru pellteroedd hir gyda babanod cynamserol a babanod ifanc. Mae ymchwil wedi canfod y gallai babanod ifanc fod mewn perygl o anawsterau anadlu os ydyn nhw’n cysgu'n unionsyth mewn safle eistedd am ormod o amser, a all gynyddu'r risg o syndrom marwolaeth sydyn babanod (SIDS). 

Stopiwch a chymerwch seibiannau rheolaidd os ydych chi'n gyrru'n bell. Bydd hyn yn caniatáu i chi edrych ar eich babi, ei dynnu allan o sedd y car a gadael iddo ymestyn a symud o gwmpas. 

Os yn bosibl, cael ail oedolyn yn y sedd gefn gyda'ch babi.  Os ydych chi'n teithio ar eich pen eich hun, defnyddiwch ddrych i gadw llygad arnyn nhw. 

Os bydd eich babi yn newid ei safle ac yn disgyn yn swp ymlaen, stopiwch ar unwaith. Yna tynnwch y babi allan o sedd y car a'i rhoi i eistedd yn unionsyth cyn parhau ar eich taith. 

Dewiswch sedd babi sy'n wynebu'r cefn. Mae hyn yn hanfodol ar gyfer diogelwch. Maen nhw’n darparu gwell amddiffyniad i ben, gwddf ac asgwrn cefn y babi o'i gymharu â seddi sy'n wynebu ymlaen. 

Gwnewch yn siŵr bod gennych y sedd car gywir ar gyfer pwysau eich babi a'i bod wedi'i ffitio'n iawn – bydd llawer o siopau'n helpu gyda hyn. 

Mae seddi ceir wedi'u cynllunio i gadw babanod yn ddiogel wrth deithio, ond nid ydyn nhw wedi'u cynllunio i fod yn brif le cysgu felly nid ydyn nhw’n addas ar gyfer cysgu ynddyn nhw am gyfnodau hir.  Defnyddiwch nhw ar gyfer cludiant yn unig, nid fel dewis arall yn lle cotiau neu gadeiriau uchel. 

Mae'n iawn i'ch babi syrthio i gysgu mewn sedd car wrth deithio, ond tynnu’r babi allan cyn gynted ag y byddwch chi'n cyrraedd eich cyrchfan a'i roi ar arwyneb cadarn, gwastad i gysgu. 

Wrth deithio yn y car, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n: 

Tynnu unrhyw hetiau neu ddillad awyr agored, fel siwtiau eira a chotiau, unwaith y bydd eich babi yn y car. Mae'n arbennig o bwysig tynnu hetiau i ffwrdd, gan fod eich babi yn cynnal tymheredd ei gorff trwy ryddhau gwres trwy ei ben. 

Gwirio nad yw'ch babi yn mynd yn rhy boeth. Y ffordd orau yw teimlo ei bol neu gefn ei gwddf. Os yw ei chroen yn teimlo'n llaith neu'n chwyslyd, mae'n rhy boeth, felly tynnwch haen o ddillad. 

Seddi ceir ail-law 

Mae'n well peidio â phrynu na defnyddio sedd car ail-law gan na allwch fod yn sicr o'i hanes. Gallai fod wedi bod mewn damwain ac efallai na fydd y difrod yn weladwy. Gall hyd yn oed ôl traul dros amser effeithio ar eu diogelwch a pha mor dda y gall amddiffyn eich babi. 

Sedd car yn bodloni safonau diogelwch 

Rhaid i seddi ceir gydymffurfio â safonau diogelwch fel:  

  • Safon y Cenhedloedd Unedig, Rheoliad ECE 44.04 (neu R 44.03) 

  • Y rheoliad i-size newydd, R129. 
  • Chwiliwch am y label marc 'E' ar y sedd, sy'n dangos ei bod yn bodloni safonau Diogelwch yr Undeb Ewropeaidd. 

Gallwch ddysgu mwy gyda'r wybodaeth ganlynol: 

 

 

Dilynwch ni: