Mae'r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd. Ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gall pawb ddysgu'r iaith. Mae plant yn caffael sgiliau iaith yn gyflym mewn addysg Gymraeg.
Mae Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn darparu cefnogaeth helaeth i blant, a'u teuluoedd, gan hyrwyddo dysgu a defnyddio'r Gymraeg. Am ragor o wybodaeth am Addysg Gymraeg yn yr ardal, ewch i'n gwefan.
Cylchoedd chwarae cyfrwng Cymraeg yw'r Cylchoedd Meithrin lle mae croeso cynnes i blant o gartrefi di-Gymraeg.
Mae’r Cylchoedd Meithrin yn cael eu cynnal mewn amrywiaeth o leoliadau ar draws y fwrdeistref sirol. Maen nhw’n ysbrydoli datblygiad trwy chwarae, gan baratoi eich plentyn ar gyfer datblygiad iaith yn y dyfodol trwy fod yn ddwyieithog o oedran cynnar.
Cliciwch ar y dolenni i ddod o hyd i'ch Cylch Meithrin lleol, gwefan DEWIS neu drwy gysylltu â'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd ar familyinformationservice@bridgend.gov.uk
Mae Cymraeg i Blant yn cynnal sesiynau am ddim i chi a'ch babi ledled Pen-y-bont ar Ogwr. O'r camau cynharach, gallwch gael mynediad at sesiynau mewn tylino babanod, ioga i fabanod ac amser rhigwm ac arwyddo Cymraeg.
Mae Cylch Ti a Fi yn grŵp i fabanod/plant bach a rhieni ac mae’n ddwyieithog. Mae'r sesiynau'n cynnig cyfleoedd gwych i gymdeithasu â rhieni eraill ac i chi gael blas ar sut y bydd eich plentyn yn addasu i'r Cylch Meithrin. Mae croeso cynnes i bawb ac mae'n bwysig nodi nad oes rhaid i chi siarad Cymraeg i fynychu'r sesiynau.
Nid oes rhaid i chi fynychu'r sesiynau hyn i fynychu Cylch Meithrin nac ysgol Gymraeg - bydd eich plentyn yn cael ei gefnogi ym mhob cam o'i daith. I ddod o hyd i'ch grŵp Cylch Ti a Fi lleol, ewch yma.
Os ydych chi'n rhiant/gofalwr i blentyn sy'n byw mewn ardal Dechrau'n Deg gymwys, mae gennych chi'r opsiwn o ddewis darpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg neu Saesneg ar gyfer eich plentyn.
Mae gwybodaeth ar gael i dynnu sylw at fanteision dewis addysg cyfrwng Cymraeg yn ein llyfryn 'Pam Dewis Addysg Cyfrwng Cymraeg?'.
Gofynnwch i'ch ymwelydd iechyd neu ymholi'n uniongyrchol â thîm Dechrau'n Deg i gael gwybod mwy am ddarpariaeth gofal plant cyfrwng Cymraeg yn eich ardal. Am ymholiadau, cysylltwch â flyingstart@bridgend.gov.uk
Newyddion da! Nid yw hi'n rhy hwyr ar gyfer addysg Gymraeg.
Mae ein darpariaeth trochi hwyr wedi'i chynllunio'n arbennig ar gyfer disgyblion o'r ysgol gynradd hyd at flwyddyn saith sy'n newydd i addysg cyfrwng Cymraeg. Drwy ddysgu ieithoedd yn ddwys, rydym yn galluogi disgyblion i ddod yn rhugl yn gyflym a throsglwyddo'n esmwyth i ysgol Gymraeg. Dysgwch fwy drwy ein gwefan
Mae gennym bedair ysgol gynradd Gymraeg:
Ysgol Gymraeg Bro Ogwr, Brackla
Ysgol Cynwyd Sant, Maesteg
Ysgol Gymraeg Y Ferch o'r Sger, Gogledd Corneli
Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd yw ein hysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg sydd wedi cael ei harolygu yn ddiweddar gan Estyn. Mae'r adroddiad yn cydnabod ei rhagoriaeth a dyma'r ysgol Gymraeg gyntaf yng Nghymru i beidio â derbyn unrhyw argymhellion.
I gael gwybod mwy am ein hysgolion, ewch i'n gwefan.
Fideos hyrwyddo cyfrwng Cymraeg |
Fideo 'Taith Addysg Gymraeg Pen-y-bont / Bridgend's Welsh-medium Journey: |
https://www.youtube.com/watch?v=Smxg5Fyq9gc
|
Videos Byr / Video shorts: Addysg Uwchradd
|
|
|
Cynradd
|
||
Ehangu addysg Gymraeg
|
||
Trochi Hwyr
|
||
Llyfryn |
Llyfryn Pam Dewis Addysg Gymraeg? / Why choose Welsh-medium Education |
https://www.bridgend.gov.uk/media/tvwao31s/pham-dewis-addysg-gyfrwng-cymraeg.pdf
|
Tudalennau’r We yr Awdurdod Lleol / Local Authority Webpages: |
Addysg Gyfrwng Cymraeg: |
https://www.penybontarogwr.gov.uk/preswylwyr/ysgolion-ac-addysg/addysg-cyfrwng-cymraeg/ |
Welsh-medium Education: |
https://www.bridgend.gov.uk/preswylwyr/ysgolion-ac-addysg/addysg-gyfrwng-cymraeg/ |
|
Taith gyfrwng Cymraeg: |
||
Welsh-medium journey: | ||
Ysgolion Cyfrwng Cymraeg: |
||
Welsh-medium Schools: |
Bydd cyflwyno’r Gymraeg i’ch babi’n gynnar yn cynyddu eu cyfleoedd a’u dewisiadau yn ddiweddarach mewn bywyd. Gweler y posteri isod ar sut allwch chi wneud hyn hyd yn oed yn ystod beichiogrwydd: