Dylech gofrestru genedigaeth eich babi yn y swyddfa gofrestru leol (https://www.gov.uk/register-offices) Ar gyfer yr ardal lle vafodd y babi ei eni.
Os na allwch gofrestru'r enedigaeth yn yr ardal cafodd eich babi ei eni, gallwch fynd i swyddfa gofrestru arall i wneud datganiad geni a byddan nhw’n anfon eich manylion at y swyddfa gywir lle bydd y cofrestriad wedyn yn cael ei gofnodi yn y gofrestr gywir.
Dim ond hysbysydd cymwys all gofrestru genedigaeth:
Mae'n ofynnol rhoi gwybodaeth ar gyfer cofrestru, yn bersonol, o fewn 42 diwrnod i'r enedigaeth ac mae gan rai pobl gyfrifoldeb cyfreithiol i wneud hyn.
Yn nhrefn eu blaenoriaeth maen nhw fel a ganlyn:
partneriaeth sifil â mam y plentyn ar adeg y driniaeth
Lle nad yw'r tad yn briod â mam y plentyn adeg ei eni neu ei genhedlu, ni ellir cofnodi ei enw a manylion eraill yn y gofrestr oni bai ei fod yn bresennol gyda'r mam i gofrestru (er nad oes ganddo ddyletswydd gyfreithiol i wneud hynny).
Mae rhai amgylchiadau lle gellir cario cofrestriadau i gynnwys manylion y tadau e.e. trwy gyflwyno gorchymyn llys; fodd bynnag, bydd angen trafod hyn gyda'r cofrestrydd ar adeg gwneud yr apwyntiad i gofrestru'r enedigaeth.
Gallwch drefnu'n uniongyrchol gyda'ch cofrestrydd lleol drwy gysylltu â:
Pen-y-bont ar Ogwr: https://www.penybontarogwr.gov.uk/preswylwyr/genedigaethau-priodasau-marwolaethau/cofrestru-genedigaeth/
Rhondda Cynon Taf: https://www.rctcbc.gov.uk/CY/Resident/BirthsMarriagesandDeaths/Births/Registeringabirth.aspx
Merthyr Tudful: https://www.merthyr.gov.uk/resident/births-deaths-marriages/registering-a-birth/?lang=cy-GB&