Geni Cesaraidd wedi'i gynllunio

Beth mae genedigaeth cesaraidd yn ei olygu?  

Genedigaeth Cesaraidd yw pan fydd y babi’n cael ei eni drwy’r abdomen. Mae toriad yn cael ei wneud ychydig o dan y llinell bicini ar wal flaen yr abdomen a'r groth.  

Pam mae angen i mi gael genedigaeth Cesaraidd?  

Pan fyddwch chi a'ch meddyg yn penderfynu mai dyma'r llwybr gorau i'ch babi gael ei eni, bydd y meddyg yn esbonio'r rhesymau pam yn llawn i chi.  

Ble bydda i’n cael fy ngenedigaeth Cesaraidd?  

Bydd staff yn ceisio sicrhau eich bod yn cael eich llawdriniaeth yn yr ysbyty rydych wedi dewis rhoi genedigaeth ynddo. Byddai hyn naill ai Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr neu Ysbyty’r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful. Yn anffodus, ar yr achlysuron prin pan fydd un o'r unedau yn brysur iawn, efallai y byddwn yn gofyn i chi fynd i'r uned arall ar gyfer eich genedigaeth. Os yw'r ddwy uned yn brysur, gallai hyn arwain at oedi, neu gellir trafod dyddiad arall. Unwaith y byddwch wedi gwneud y penderfyniad i gael genedigaeth cesaraidd. Bydd eich ymgynghorydd yn llenwi ffurflen gyda chi, ac yn rhoi dyddiad bras i chi ar gyfer eich llawdriniaeth.  

Mae’r profforma yn cael ei anfon at y tîm amlddisgyblaethol, lle penderfynir ar y dyddiad, yr amser a'r drefn flaenoriaeth ar gyfer pob rhestr lawfeddygol. Rydym yn ceisio trefnu eich genedigaeth cesaraidd wythnos neu ddwy ymlaen llaw, lle bo hynny'n bosibl. Bydd Bydwraig yn rhoi gwybod i chi dros y ffôn; felly, mae'n bwysig bod gennym eich manylion cyswllt cywir ar y Profforma. Bydd y Fydwraig yn rhoi gwybod i chi am y dyddiad, yr amser a'r drefn y bydd eich genedigaeth cesaraidd yn digwydd. Bydd hefyd yn rhoi dyddiad ac amser i chi fynychu apwyntiad cyn-asesu, sydd angen i chi ei gael cyn y llawdriniaeth.  

Byddwn bob amser yn ceisio darparu ar gyfer unrhyw geisiadau am ddyddiadau penodol i roi genedigaeth, ond efallai na fydd hyn yn bosibl bob amser.  

Alla i fod yn effro wrth gael genedigaeth Cesaraidd?  

Gallwch, dyma beth rydym fel arfer yn ei argymell, gan mai dyma'r ffordd fwyaf diogel i'r fam a'r babi fel ei gilydd. Fel arfer bydd anaesthetig epidwral neu asgwrn cefn (nodwydd yn y cefn) yn cael ei ddefnyddio fel eich bod yn effro yn ystod y llawdriniaeth.  

Byddwch yn ddi-deimlad o'ch bol i'ch traed – ond byddwch yn ymwybodol o rywfaint o deimlad o dynnu. Fodd bynnag, ni ddylech deimlo poen. Bydd gorchudd yn ei le, o flaen eich wyneb, gan atal eich gallu i weld ac i sicrhau atal haint. Bydd eich partner geni yn gallu aros gyda chi yn ystod y llawdriniaeth.  

I gael gwybodaeth am yr anaesthetig, ewch i www.labourpains.org

Weithiau, os yw'r anaesthetig yn yr asgwrn cefn neu'r epidwral yn aneffeithiol, os ydych wedi dewis peidio â chael y naill na'r llall ac mewn achos o gymhlethdod, gellir rhoi anaesthetig cyffredinol. Mae hyn yn golygu y byddwch yn cysgu yn ystod y llawdriniaeth, ac ni fydd eich partner geni yn gallu aros yn yr ystafell lawdriniaeth gyda chi.  

Cyn eich Genedigaeth Cesaraidd  

Er mwyn lleihau'r risg o haint, rydym yn argymell eich bod, am 7 diwrnod cyn eich genedigaeth cesaraidd cynlluniedig chi’n cael cawod a bath bob dydd gan ddefnyddio sebon. Dylech roi sylw arbennig i'r ardal o dan eich breichiau, rhwng eich coesau, ardal y fwlfa a phlygiadau eich croen, a PHEIDIWCH â siafio na chwyro eich blew piwbig.  

Cyn eich llawdriniaeth, bydd gofyn i chi fynychu clinig cyn-asesu gyda'r tîm, sy'n cynnwys bydwraig, meddyg obstetrig ac anaesthetydd.  Bydd yr apwyntiad hwn yn yr un ysbyty ag y byddwch chi'n cael eich genedigaeth Cesaraidd.  

Bydd yr apwyntiad cyn-asesu yn cynnwys cael eich archwilio gan Fydwraig. Bydd y Fydwraig yn gwrando ar guriad calon eich babi, yn gwneud arsylwadau ac yn cymryd samplau gwaed oddi wrthych. Mae'r profion gwaed yn cynnwys gwirio nad ydych yn anemig. Byddwn hefyd yn gwirio eich grŵp gwaed, rhag ofn y bydd angen trallwysiad gwaed yn ystod eich llawdriniaeth. Bydd y tîm yn egluro i chi beth i'w ddisgwyl yn ystod y llawdriniaeth, ac yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. Bydd yr anaesthetydd yn egluro beth i'w ddisgwyl o ran anaesthesia yn ystod eich llawdriniaeth, a bydd y meddyg obstetreg yn trafod y llawdriniaeth gyda chi.  

Bydd dewisiadau personol yn cael eu cynnig i chi ar gyfer eich llawdriniaeth. Bydd hyn yn cynnwys: 

  • a hoffech i'r llenni gael eu gostwng fel y gallwch weld eich babi yn cael ei eni 
  • a hoffech i ni ddweud rhywedd eich babi wrthych, neu a hoffech weld hyn eich hun  
  • os hoffech gael cyswllt croen wrth groen ar unwaith gyda'ch babi 
  • os hoffech chi, neu eich partner geni, torri’i llinyn  

Os dewiswch yr opsiynau hyn, byddan nhw ar gael dim ond os yw eich llawdriniaeth yn un ddi-gymhleth ac os yw eich babi yn iach. Os oes unrhyw bryderon ynghylch y geni neu eich babi, gellir mynd â'r babi yn syth at y tîm newyddenedigol i gael ei archwilio a derbyn cefnogaeth, os oes angen. Bydd bydwraig yn bresennol a fydd yn gallu eich cefnogi gyda'ch holl ddewisiadau.  

Bydd y meddyg yn bresgripsiynu moddion i leihau'r asid yn eich stumog. Byddwch yn cael cyfarwyddiadau ynghylch pryd i gymryd hwn. Yn dibynnu ar amser eich genedigaeth cesaraidd, byddwch yn cael eich cynghori pryd i stopio bwyta ac yfed. Fel arfer, bydd eich genedigaeth cesaraidd yn cael ei threfnu  

ar gyfer y bore, a byddwch yn cael cyngor i fwyta ac yfed fel yr arfer tan y noson cyn y llawdriniaeth, ac i beidio â bwyta nac yfed dim byd ar wahân i ddŵr plaen ar ôl hanner nos.  

Mae hyn yn cynnwys gwm cnoi, melysion wedi'u berwi neu ysmygu.   

Gallwch yfed sypiau o ddŵr ar ôl hanner nos nes y cewch eich galw i'r theatr, sydd wedi'i lleoli yn y ward geni.  

Os oes unrhyw gwestiynau gennych chi, cysylltwch â:  

Asesiad Blaenoriaeth Mamolaeth yn Ysbyty Tywysoges Cymru:   

01656 753652

Uned Asesu Dydd yn Ysbyty’r Tywysog Siarl: 

01685 728849

Bydd gofyn i chi lofnodi ffurflen gydsyniad yn rhoi cydsyniad i'r cesaraidd ddigwydd. Bydd y meddyg sy'n llofnodi'r ffurflen hon gyda chi hefyd yn trafod unrhyw risgiau neu gymhlethdodau a allai godi yn ystod neu ar ôl y llawdriniaeth. Mae croeso i chi ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych am y risgiau hyn yn ystod y cyfnod hwn.  

Bydd yr anaesthetegydd yn gwirio eich manylion meddygol ac yn trafod yr anaesthetig a moddion lleddfu poen ar ôl y llawdriniaeth gyda chi.  

Pryd ydw i'n dod i'r ysbyty?  

Bydd gofyn i chi ddod i'r ysbyty ar fore eich genedigaeth cesaraidd, fodd bynnag, weithiau efallai y cewch eich derbyn i'r ysbyty y noson cynt. Bydd y meddyg yn rhoi gwybod i chi pryd i ddod i'r ysbyty yn eich apwyntiad clinig cyn-asesu.  

Diwrnod eich Genedigaeth Cesaraidd  

Dylech gael cawod / bath cyn mynd i'r ysbyty, gan ddefnyddio sebon a rhoi sylw i'r ardal dan eich breichiau, yr afl, ardal y fwlfa, plygiadau'r croen a'r bogail.  

Bydd angen tynnu colur, farnais ewinedd, ewinedd ffug, lensys cyswllt a’ch holl emwaith. Bydd eich modrwy briodas yn cael ei gorchuddio â thâp os na allwch ei thynnu. Rydym yn gofyn i chi adael eich holl eiddo personol sy'n bwysig i chi gartref, gan nad oes gennym le diogel i'w cadw os cânt eu gadael heb oruchwyliaeth. Dewch ag unrhyw foddion rydych yn ei gymryd gyda chi.  

Ble yn yr ysbyty y mae angen i fi fynd?  

Bydd y fydwraig sy'n cynnal eich asesiad rhagarweiniol yn rhoi gwybod i chi i ba leoliad y mae angen i chi fynd, yn y dyddiau cyn eich llawdriniaeth.  

Beth fydd yn digwydd pan fydda i’n cyrraedd yr ysbyty?  

Wrth gyrraedd, bydd bydwraig yn cwrdd â chi a bydd hi'n gofalu amdanoch ac efallai y bydd hi gyda chi pan fyddwch yn rhoi genedigaeth. Os yw eich genedigaeth cesaraidd wedi'i chynllunio oherwydd bod eich babi mewn safle ffolennol neu ‘breech presentation’, bydd sgan uwchsain yn cael ei wneud cyn mynd i mewn i theatr i wirio safle'r babi. Os yw'r babi wedi troi gyda'i ben i lawr, efallai na fydd y llawdriniaeth  

yn mynd yn ei blaen. Byddwch yn cael eich cynghori i gael apwyntiad clinig cyn-geni pellach er mwyn llunio cynllun pellach ar gyfer eich gofal.  

Byddwch yn cael gŵn ysbyty a band braich adnabod i'w gwisgo.  Bydd rhestr wirio theatr hefyd yn cael ei chwblhau a fydd yn gofyn cwestiynau am eich iechyd, alergeddau ac unrhyw foddion rydych yn eu cymryd. Byddwch yn cael pâr o hosanau llawfeddygol i'w gwisgo cyn mynd i'r theatr.  

Mae'r rhain yn cael eu gwisgo i leihau'r risg o glot gwaed (DVT – thrombosis gwythiennau dwfn). Byddwn yn gwirio eich sgôr risg ar ôl i chi gael eich babi ac efallai y byddwn yn awgrymu eich bod yn cael pigiadau i'ch bol am naill ai 10 diwrnod neu 6 wythnos yn dibynnu ar eich asesiad risg personol.  

Beth sy'n digwydd pan fydda i’n mynd i'r theatr?  

Bydd bydwraig yn mynd gyda chi a'ch partner i'r theatr, yn aros gyda chi yn ystod y llawdriniaeth, ac yn gofalu amdanoch wedyn. Gall un partner geni eich hebrwng cyn, yn ystod ac yn syth ar ôl y llawdriniaeth. Bydd gennych diwb bach wedi'i osod mewn gwythïen yn 

 eich braich fel y gallwch dderbyn hylifau trwy ddrip. Bydd tiwb meddal bach (cathetr) yn cael ei roi yn eich pledren i helpu i ddraenio wrin. Gallwch adael hwn yn ei le tan y bore ar ôl genedigaeth eich babi. Fel arfer caiff ei dynnu unwaith y byddwch yn gallu symud o gwmpas.  Bydd padiau'n cael eu gosod ar eich cefn i fonitro'ch calon yn ystod y llawdriniaeth ond gan gadw'ch brest yn glir er mwyn i chi allu dal eich babi ar ôl iddo gael ei eni, os dymunwch chi.  

Cyn y llawdriniaeth ac ar ôl y llawdriniaeth, bydd y staff yn cynnal gwiriadau diogelwch ar lafar, a byddan nhw i gyd yn cyflwyno eu hunain i chi drwy roi eu henwau a'u swyddi. Gallwch ddewis y gerddoriaeth yr hoffech iddi gael ei chwarae yn ystod y llawdriniaeth, os dymunwch.  

Cyn i'r llawdriniaeth ddechrau, bydd angen i'r anaesthetydd roi anaesthetig asgwrn cefn. Er mwyn i hwn gael ei fewnosod yn ddiogel bydd gofyn i chi eistedd i fyny a chyrlio'ch cefn. Mae'n bwysig iawn ceisio aros yn llonydd er mwyn i hyn gael ei wneud. Bydd eich cefn yn cael ei lanhau a wedyn bydd anaesthetig lleol yn cael ei roi.  Byddwch yn teimlo  

pigiad bach yn eich cefn wrth i hyn gael ei roi. Yna bydd nodwydd arall yn cael ei rhoi yn eich cefn i roi anaesthetig asgwrn y cefn i chi. Mae'n bwysig eich bod yn dweud wrth yr anaesthetegydd ar yr adeg hon os byddwch yn teimlo unrhyw boen neu deimlad gogleisiog yn eich coes tra bydd yn gwneud hyn.  

Pan fydd y nodwydd yn y lle iawn bydd yr anaesthetig lleol yn cael ei chwistrellu a'r nodwydd yn cael ei thynnu. Mae hyn fel arfer yn cymryd ychydig funudau yn unig ond gall gymryd ychydig yn hirach. Bydd eich coesau'n teimlo'n drwm ac yn gynnes yn eithaf cyflym ar ôl hyn. Byddwch yn gyfforddus ar wely'r ystafell lawdriniaeth, a byddwn yn gwirio ei fod yn gweithio'n dda cyn i'r llawdriniaeth ddechrau. Efallai y byddwch yn teimlo'n sâl oherwydd y moddion.  

Os felly, gadewch i'r anaesthetegydd wybod.  

Sylwch, nid ydym yn gofyn yn rheolaidd i feddygon babanod (neonatolegyddion) fod yn bresennol mewn genedigaeth cesaraidd a drefnwyd.  

Beth fydd yn digwydd pan fydd fy mabi yn cael ei eni? 

Bydd y fydwraig yn sychu'r babi ac yn ei lapio mewn tywel, ac yn ei ddod atoch chi. Byddwn yn eich annog i roi’r babi wrth eich croen. Os dewiswch wneud hynny, gallwn hefyd eich cefnogi gyda'ch dewisiadau bwydo.  

Mae cyswllt croen wrth groen yn bwysig, gan ei fod yn tawelu ac yn ymlacio'r fam a'r babi fel ei gilydd.  Mae'n rheoleiddio curiad calon ac anadlu'r babi, gan ei helpu i addasu'n well i fywyd y tu allan i'r groth, ac yn ysgogi treuliad a diddordeb mewn bwydo. Mae cyswllt croen wrth groen hefyd yn wych ar gyfer rheoleiddio tymheredd y babi, a byddwn yn eich cefnogi i sicrhau bod y babi yn cael ei gadw'n gynnes yn ystod yr oriau cyntaf.  

Byddwch yn cael poenladdwyr yn dilyn eich llawdriniaeth yn y theatr i'ch cadw'n gyfforddus. Unwaith y bydd y llawdriniaeth wedi'i chwblhau, bydd y pwythau yn hydoddi ac ni fydd angen tynnu dim byd.  

Risgiau o enedigaeth cesaraidd  

Mae 10-20 allan o bob 100 o fenywod yn profi cymhlethdodau bach, fel haint yn y bledren neu gleisio ar yr abdomen, yn ystod genedigaeth cesaraidd. Gall colli gwaed fod yn drwm ac efallai y bydd angen trallwysiad gwaed arnoch.    

Mae risgiau mwy difrifol yn llai cyffredin.    

•   Mae tua 1 o bob 1000 mewn perygl o niwed i'r bledren, wreterau (tiwbiau sy'n cysylltu'r arennau a'r bledren), y coluddion a'r pibellau gwaed.    

•   Rydym yn cymryd pob gofal i beidio ond mae perygl o tua 1 o bob 50 y byddwn yn achosi briw; os yw pen y babi i lawr gall hyn fod i'w wyneb, os yw'n ffolennol sef safle ‘breech’, gall hyn fod i'r pen ôl.    

•   Risg o glotiau gwaed yn y goes a'r ysgyfaint a all fygwth bywyd.  

Bydd y meddyg yn trafod yr uchod gyda chi fel rhan o'ch cyn-asesiad a bydd yn gallu ateb unrhyw gwestiynau neu bryderon sydd gennych.  

Beth fydd yn digwydd wedyn?  

Byddwch yn cael eich trosglwyddo i wely ward mwy cyfforddus ac yn mynd i ardal gwella.  

Bydd angen i chi aros yno am rai oriau gan fod angen i ni wybod eich bod chi a'ch babi yn iach ar ôl genedigaeth.  

Yn ystod y cyfnod hwn, byddwch yn cael eich monitro'n agos. Bydd eich gorchudd clwyf, pwysedd gwaed, pwls, tymheredd, cyfradd resbiradol, wrin, colled gwaed a lefel eich poen yn cael eu gwirio'n rheolaidd. Byddwch yn cael cynnig poenladdwyr yn rheolaidd ac yn cael eich annog i yfed sipiau o ddŵr os ydych chi'n teimlo'n ddigon da. 

 Yn ddiweddarach, cewch y cyfle i ymolchi os oes angen, a bydd angen gwisgo hosanau llawfeddygol. Os ydych chi a'ch babi yn iach, byddwch yn cael eich trosglwyddo i'r ward ôl-enedigol ar ôl ychydig oriau.  

Yn dilyn genedigaeth, rydych yn cael eich annog i fwyta ac yfed fel arfer ac unwaith y byddwch yn gallu gwneud hyn byddwn yn gallu tynnu'ch drip. Bydd eich cathetr yn cael ei dynnu unwaith y byddwch yn gallu symud.  

Y diwrnod canlynol

Fel arfer caiff eich cathetr ei dynnu unwaith y gallwch gerdded o gwmpas a bydd y drip yn cael ei dynnu i lawr os ydych yn bwyta ac yn yfed yn normal. Bydd cymorth yn cael ei rhoi i gael cawod / ymolchi. Ni fydd eich gorchudd clwyf yn cael ei dynnu cyn i chi gael eich rhyddhau o'r ysbyty, ond gellir ei dynnu ar ôl 24 awr unwaith y byddwch gartref.  Efallai y bydd yn haws tynnu hwn unwaith y byddwch wedi cael cawod achos gall fod yn ludiog. Weithiau mae’n bosibl y bydd gennych chi fath gwahanol o orchudd y mae angen ei wisgo’n hirach – byddwch yn cael gwybod os yw hyn yn wir.  

Mae'n arferol colli gwaed trwy’r wain a dylai fod yr un peth â dyddiau cyntaf eich mislif. Dylai hyn setlo dros y 2-3 wythnos nesaf. Mae'n bwysig dweud wrth eich bydwraig os byddwch yn colli unrhyw glotiau gwaed neu os yw'r golled yn mynd yn drymach.  

Pryd alla i fynd adref?  

Os nad oes unrhyw broblemau yn dilyn eich genedigaeth Cesaraidd a bod eich babi yn iach, gallwch fynd adref 24 awr ar ôl genedigaeth eich babi. Efallai y bydd menywod sydd angen cymorth ychwanegol yn cael cynnig i gael eu rhyddhau a chael gofal ôl-enedigol pellach yn y Ganolfan Geni yng Nghastell-nedd Port Talbot, Canolfan Geni Tirion yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg neu Ganolfan Geni Tair Afon yn Ysbyty'r Tywysog Siarl.  

Byddwn yn sicrhau y bydd unrhyw feddyginiaeth ychwanegol sydd eu hangen arnoch yn cael eu rhoi i chi cyn eich rhyddhau ond byddem yn eich cynghori i brynu cyflenwad o baracetamol ac ibuprofen cyn dod i'r ysbyty fel bod y rhain gartref yn barod ar eich cyfer.  

Ar ôl rhyddhau  

Bydd eich bydwraig gymunedol yn ymweld â chi y diwrnod ar ôl i chi gael eich rhyddhau o'r ysbyty. Byddan nhw’n gwirio eich pwysedd gwaed a'ch wrin ac yn edrych ar eich clwyf. Rhowch wybod iddyn nhw os oes gennych unrhyw bryderon am eich clwyf, yn enwedig os oes unrhyw gochni, unrhyw arllwysiad o’r clwyf neu unrhyw chwyddo.  

Os na fyddwch chi'n gweld nac yn clywed gan y fydwraig gymunedol erbyn 3pm y diwrnod hwnnw, cysylltwch â'ch uned famolaeth leol a fydd yn gallu sicrhau eich bod chi'n cael ymweliad.  

Adferiad ac ôl-ofal  

Ar ôl cael eich rhyddhau o'r ysbyty byddwch yn parhau i dderbyn gofal gan eich bydwraig gymunedol. Byddwch yn derbyn manylion cyswllt eich bydwraig leol pan fyddwch yn cael eich rhyddhau o'r ysbyty.  

Gall eich bydwraig ac ymwelydd iechyd roi cyngor ynghylch pryd y byddai'n ddoeth ailddechrau gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd. Rydyn ni’n argymell eich bod yn osgoi gyrru am y 6 wythnos gyntaf ar ôl genedigaeth eich babi er mwyn sicrhau bod eich corff wedi gwella. 

Trafodwch hyn gyda'ch bydwraig neu eich meddyg teulu pan fyddwch yn teimlo'n barod i yrru. Gall cyngor gan gwmnïau yswiriant amrywio, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cysylltu â nhw pan fyddwch yn teimlo'n barod i yrru.  

Mae’n bwysig eich bod yn gorffwys ac yn gofalu amdanoch chi eich hun a manteisio ar y cyfle hwn i fwynhau eich teulu newydd!  

Beichiogrwydd nesaf

Ar ôl un enedigaeth cesaraidd byddwn fel arfer yn annog genedigaeth drwy'r wain ar gyfer eich beichiogrwydd nesaf. Os nad yw hyn yn addas i chi, bydd hyn yn cael ei drafod cyn mynd adref. Ar ôl dau enedigaeth cesaraidd, rydym fel arfer yn argymell genedigaeth cesaraidd ar gyfer unrhyw feichiogrwydd yn y dyfodol, er y gellir trafod hyn oll gyda'ch meddyg.  

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch eich gofal, gofynnwch i'r staff a byddan nhw’n gallu egluro'r broses ofal i chi. Dylai unrhyw faterion sy’n ymwneud â gofal gael sylw gan reolwr y ward cyn i'r claf gael ei ryddhau adref.  

Eich Dewisiadau Geni  

Awyrgylch

  • Hoffwn fy ngherddoriaeth fy hun
  • Rydw i’n hapus gyda dewis cerddoriaeth y tîm  
  • Dydw i ddim eisiau i gerddoriaeth gael ei chwarae

Genedigaeth        

  • Hoffwn weld fy mabi ar ôl iddo gael ei eni, cyn iddo gael ei roi i mi  
  • Ni hoffwn weld fy mabi nes iddo gael ei roi i fi  

Rhywedd    

  • Hoffwn weld rhywedd fy mabi fy hun yn gyntaf  
  • Rydw i eisoes yn gwybod rhywedd fy mabi  
  • Hoffwn i'r tîm ddweud wrthyf i beth yw rhywedd fy mabi  
  • Hoffwn i fy mhartner ddweud wrthyf i beth yw rhywedd fy mabi  

Llinyn        

  • Hoffwn i'r babi gael ei drosglwyddo i fi ar unwaith am gyswllt croen wrth groen  
  • Hoffwn i dorri'r llinyn  
  • Hoffwn i fy mhartner dorri'r llinyn  
  • Hoffwn i'r tîm dorri'r llinyn   
  • Dydw i ddim eisiau cyswllt croen wrth groen  
  • Hoffwn i fy mhartner gael cyswllt croen wrth groen  
  • Hoffwn i'r babi gael ei sychu a'i lapio cyn dod ataf i am gyswllt croen wrth groen  

Atal cenhedlu

  • Ni hoffwn i i goil gael ei osod ar adeg fy llawdriniaeth  
  • Hoffwn i i goil hormon gael ei osod ar adeg fy llawdriniaeth 
  • Hoffwn i i goil copr (di-hormon) gael ei osod ar adeg fy llawdriniaeth