Neidio i'r prif gynnwy

Diabetes: Cynllunio beichiogrwydd?

Cyngor ar gyfer beichiogrwydd iach

Bydd cynllunio beichiogrwydd gyda diabetes yn helpu i leihau risgiau ac yn helpu i wella canlyniadau yn ystod beichiogrwydd, y cyfnod esgor a'r cyfnod ôl-enedigol.

Mae menywod â diabetes yn wynebu risg uwch o gamesgoriad, camffurfiadau yng nghalon y babi, aelodau’r corff, asgwrn cefn neu organau hanfodol eraill.

Gall twf babi gael ei effeithio hefyd, gyda risg uwch o farw-enedigaeth a marwolaeth newyddenedigol yn ystod wythnosau cynnar bywyd.

Mae cyrraedd targed HbA1c (48mmol/mol) ar ddechrau'r cyfnod cenhedlu a chynnal y lefel darged o glwcos yn y gwaed (4.0-7.8 mmol/L) yn bwysig er mwyn osgoi cymhlethdodau a sicrhau'r canlyniadau gorau i chi a'ch babi.

HbA1c

HbA1c yw eich glwcos gwaed cyfartalog (siwgr) dros y 2 i 3 mis diwethaf. Mae HbA1c uchel yn golygu bod gennych ormod o siwgr yn eich gwaed.

Os yw'r canlyniad yn uwch na 86mmol/L (10%) fe'ch cynghorir yn gryf i osgoi beichiogrwydd, gan anelu at lai na 48mmol/L (6.5%) cyn i chi feichiogi.

Mae monitro glwcos yn y gwaed er mwyn sicrhau sefydlogrwydd yn bwysig iawn; os teimlwch y byddech yn elwa o gyngor ychwanegol ynglŷn â diabetes, cysylltwch â thîm diabetes yr ysbyty lleol, os gwelwch yn dda.

Hypoglycemia (glwcos gwaed isel)

Mae adnabod a rheoli hypoglycemia (siwgr gwaed o dan 4mmol/L) yn arbennig o bwysig yn ystod beichiogrwydd.

Sicrhewch fod gennych eich offer monitro glwcos yn y gwaed wrth law bob amser, a glwcos gweithredol cyflym i drin yr hypoglycemia, e.e. sudd oren neu jelly babies. Cofiwch ddilyn y glwcos gweithredol cyflym gyda byrbryd carbohydrad er mwyn cadw'r glwcos yn y gwaed yn sefydlog.

Ddim Eto

  • Osgowch feichiogrwydd os yw HbA1c yn uwch na 86mmol/L (10%)
  • Defnyddiwch ddulliau atal cenhedlu effeithiol
  • Dechreuwch Asid Ffolig 5mg bob dydd
  • Anelwch at bwysau iach
  • Trefnwch adolygiad o’ch meddyginiaeth
  • Rhowch y gorau i ysmygu ac i yfed alcohol
  • Cysylltwch â'r tîm diabetes, y meddyg teulu neu'r Clinig cyn cenhedlu

Bron Yno

  • HbA1c yn gwella
  • Parhewch â 5mg o Asid Ffolig bob dydd
  • Anelwch at Glwcos Gwaed 4.0-7.8mmols/L
  • Dylech wybod sut i drin hypoglycaemia
  • Gwiriad llygaid, pwysedd gwaed ac arennau
  • Sicrhewch bod unrhyw newidiadau i’ch meddyginiaeth wedi  digwydd

Rydych wedi cyrraedd

  • HbA1c yn ddelfrydol yn llai na 48mmol/L (6.5%), ac yn osgoi hypoglycemia difrifol
  • Stopiwch atal cenhedlu
  • Dylech gynnal glwcos gwaed sefydlog
  • Parhewch â 5mg o Asid Ffolig bob dydd
  • Adolygiad Diabetig rheolaidd
Cadarnhad o feichiogrwydd

Unwaith y bydd eich beichiogrwydd wedi'i gadarnhau, cysylltwch â'ch Bydwraig Gymunedol (yng nghanolfan gofal iechyd eich meddyg teulu) a'ch tîm Diabetes.

Os oes angen rhagor o gyngor arnoch, gallwch gysylltu â'ch clinig cynenedigol lleol.

Bydd eich gofal cyn geni ar y cyd yn cael ei gydgysylltu gymaint â phosibl trwy gydol eich beichiogrwydd. Bydd yn cynnwys cyswllt rheolaidd â'r gweithwyr gofal iechyd proffesiynol canlynol:

  • Meddyg Ymgynghorol Diabetes
  • Meddyg Ymgynghorol Obstetreg (Arbenigwr Beichiogrwydd)
  • Arbenigwr Nyrsio Diabetes / Arbenigwr Bydwraig Diabetes
  • Bydwraig Gymunedol
  • Dietegydd
Dilynwch ni: