Beth rydyn ni’n ei wneud
Mae’r Tîm Cyffuriau ac Alcohol Cymunedol yn cynnig gwasanaeth i bobl sy’n cael problemau gyda chamddefnyddio sylweddau.
Rydyn ni’n darparu gwasanaeth hygyrch ac arbenigol sy’n seiliedig ar geisio lleihau niwed. Mae hyn yn cynnwys gweithio tuag at ymatal rhag camddefnyddio sylweddau lle y bo’n briodol yn ogystal â darparu rhaglenni gofal sy’n cael eu datblygu gyda phob cleient yn unigol.
I bwy mae’r gwasanaeth?
Mae’r gwasanaeth i unigolion sy’n camddefnyddio cyffuriau a/neu alcohol yn sylweddol lle bo risg cysylltiedig iddyn nhw neu i bobl eraill a lle bo tystiolaeth bod yr unigolyn yn ymrwymo i gymryd rhan weithredol yn y rhaglen driniaeth
All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?
Ceir mynediad at y gwasanaeth drwy’r pwynt mynediad sengl a reolir gan y Pwynt Mynediad Sengl Cyffuriau ac Alcohol (DASPA ).
DASPA yw’r pwynt cyswllt cyntaf ac unigol ar gyfer pobl sy’n chwilio am gymorth neu gyngor ynghylch camddefnyddio cyffuriau ac alcohol ar draws Cwm Taf Morgannwg ac mae’n gydweithrediad rhwng y sectorau gwirfoddol, cymdeithasol ac iechyd.
Amseroedd Agor
DASPA – Llun – Gwener, 9am – 5pm
	Ffôn: 0300 333 0000
DAN 24/7 - Llinell Gymorth Cyffuriau ac Alcohol Cymru
	Ffôn: 0808 808 2234
	Ar agor 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.
Beth i'w ddisgwyl
Mae’r Timau Cyffuriau Ac Alcohol Cymunedol yn wasanaethau sy’n arbenigo ar gamdriniaeth sylweddau. Maen nhw’n cynnig triniaeth wedi’i gynllunio gyda gofal cydgysylltiedig ac asesu yn y gymuned.
Cysylltwch â Ni
DASPA – Llun – Gwener, 9am – 5pm
		Ffôn: 0300 333 0000
DAN 24/7 - Llinell Gymorth Cyffuriau ac Alcohol Cymru
		Ffôn: 0808 808 2234
		Ar agor 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.
Manylion cyswllt Timau Cyffuriau ac Alcohol Cymunedol
Y Tîm Cyffuriau ac Alcohol - Pen-y-bont ar Ogwr
		Celtic Court
		Heol Tremains
		Pen-y-bont ar Ogwr
		CF31 1TZ
		Ffôn: 01656 311299
Y Tîm Cyffuriau ac Alcohol Cymunedol - Taf Elái
		Ysbyty Dewi Sant
		Heol Albert
		Pontypridd
		CF37 1LB
		Ffôn: 01443 486222
Y Tîm Cyffuriau ac Alcohol Cymunedol - Cynon
		Ysbyty Cwm Cynon
		Heol Newydd
		Aberpennar
		CF45 4BZ
		(Defnyddiwch y cod post CF45 4DG yn eich system llywio lloeren)
		Ffôn: 01685 721721
Tîm Cyffuriau ac Alcohol Cymunedol – Rhondda
		Canolfan Adnoddau Trealaw
		Teras Brynteg
		Tonypandy
		CF40 2PD
		Ffôn: 01443 443443
Y Tîm Cyffuriau ac Alcohol Cymunedol – Merthyr
		Parc Iechyd Keir Hardie
		Ffordd Aberdar
		Merthyr Tudful
		CF48 1BZ
		Ffôn: 01443 443443