Beth rydyn ni’n ei wneud
Mae saith Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig ledled Cymru, sy’n cynrychioli partneriaeth rhwng Byrddau Iechyd ac Awdurdodau Lleol. Caws eu datblygu ar ôl ymgynghoriad eang gyda phobl awtistig, rhieni/gofalwyr, gweithwyr proffesiynol a chymunedau. Amlygodd yr ymgynghoriad ddiffyg mynediad at asesiad a chymorth priodol ar gyfer pobl awtistig a fethodd â bodloni’r meini prawf ar gyfer llawer o wasanaethau. Mae Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Cwm Taf Morgannwg (IAS) yn dîm arbenigol amlbroffesiynol sy’n cynnwys y gweithwyr proffesiynol canlynol:
Mae Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Cwm Taf Morgannwg yn cynnig y gwasanaethau canlynol:
Gwybodaeth, cyngor ac ymgynghoriad achos-benodol i weithwyr proffesiynol sy'n cefnogi unigolion ag Awtistiaeth. Rydyn ni’n cynnig cymorth i oedolion ag awtistiaeth a’u teuluoedd ar amrywiaeth eang o bynciau ac isod mae rhai enghreifftiau (dydy hyn ddim yn gyflawn):
I bwy mae’r gwasanaeth? |
Gall unigolion neu eu teuluoedd a gofalwyr sy’n meddwl bod angen asesiad ar gyfer awtistiaeth, hunanatgyfeirio at y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig trwy gwblhau ffurflen atgyfeirio ar gyfer asesiad diagnostig. Wrth gwblhau'r ffurflen atgyfeirio ar gyfer asesiad diagnostig, rydym hefyd yn gofyn am AQ (50), EQ (40) a Holiadur Perthnasau (RQ) wedi'u cwblhau. Mae’r holl ddogfennau ar gael ar gais neu ar wefan Awtistiaeth Cymru: https://www.autismwales.co.uk Gall unigolion sydd wedi cael diagnosis o awtistiaeth ac a hoffai gael cymorth gan Wasanaeth Awtistiaeth Integredig Cwm Taf Morgannwg, hunanatgyfeirio drwy gwblhau furflen atgyfeirio. Gall gweithwyr proffesiynol atgyfeirio unigolion drwy gwblhau'r ffurflen atodedig, neu gallan nhw gysylltu â'r gwasanaeth am gyngor/ymgynghoriad ynghylch achos. Mae’r holl ffurflenni atgyfeirio a dogfennau cysylltiedig ar gael ar gais neu ar wefan Awtistiaeth Cymru. NODER: Ar hyn o bryd dim ond unigolion sy'n byw yn Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful y mae Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Cwm Taf Morgannwg yn eu cefnogi. Mae unigolion sy’n byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn cael eu cefnogi gan IAS Abertawe/Bae’r Gorllewin ac mae ragor o fanylion am y gwasanaeth hwn yma: https://www.autismwales.co.uk All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?
(Mae gwasanaethau eraill ar gael ar gyfer yr anghenion uchod) Sut mae defnyddio'r gwasanaeth hwn?
|