|
Sefydliad |
Disgrifiad |
Dolen |
|
Age Connects Morgannwg |
Mae Age Connects Morgannwg yn elusen sy’n cefnogi oedolion hŷn ar draws Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf. [Text Wrapping Break] Maen nhw’n darparu ystod eang o wybodaeth, cyngor a gwasanaethau i helpu pobl i aros yn annibynnol, yn ddiogel ac yn gysylltiedig cyhyd â phosibl. Maent yn darparu gwasanaethau gan gynnwys cymorth ar gyfer dementia, rhyddhau o'r ysbyty, torri ewinedd, gwybodaeth a chyngor, cyfeillio, ac yn rhedeg canolfan cymunedol yn Aberdâr.
|
|
|
Age Cymru |
Mae Age Cymru yn elusen genedlaethol sy'n gweithio gyda ac ar gyfer oedolion hŷn yng Nghymru. Maen nhw’n darparu ystod o wasanaethau ledled y DU sy'n cynnwys:
|
https://www.ageuk.org.uk/cymru/
|
|
Cymdeithas Clefyd Alzheimer |
Cymdeithas Alzheimer yw prif elusen Dementia'r DU. Maen nhw’n ymgyrchu dros newid, yn ariannu ymchwil i ddod o hyd i fodd o iacháu’r clefyd, ac yn rhoi cymorth i bobl sy'n byw gyda Dementia ar hyn o bryd. Os ydych chi wedi'ch effeithio gan ddementia neu'n poeni am ddiagnosis, neu os ydych chi'n gofalu am rywun â dementia, mae eu Cynghorwyr Dementia a'u gwirfoddolwyr hyfforddedig ar gael i siarad â nhw dros y ffôn neu wyneb yn wyneb.
|
https://www.alzheimers.org.uk/
|
|
Parkinson's UK Cymru |
Mae Parkinson's UK Cymru wedi ymrwymo i gefnogi pobl sy'n byw gyda Parkinson's, eu teuluoedd a'u gofalwyr ledled Cymru. Mae'r elusen yn cynnig cefnogaeth wyneb yn wyneb ac ar-lein, gan gynnwys arweiniad emosiynol, cyngor ymarferol, a gwasanaethau iechyd a lles wedi'u teilwra i anghenion unigol. |