Cyfeiriaduron a Chynghorau Gwirfoddol Sirol (CVC)

Cyfeiriaduron a Chynghorau Gwirfoddol Sirol (CVC)

Sefydliad  

Disgrifiad  

Dolen  

Dewis  

Mae Dewis Cymru yn gyfeiriadur ar-lein o wasanaethau lles yng Nghymru, sy'n helpu pobl i ddod o hyd i gefnogaeth leol ar gyfer anghenion iechyd, gofal cymdeithasol a chymunedol. 

https://www.dewis.cymru/  

Hub of Hope 

Wedi'i ddarparu gan yr elusen iechyd meddwl genedlaethol, Chasing the Stigma, mae'r Hub of Hope yn gyfeiriadur o wasanaethau sy'n dod â gwasanaethau cymorth iechyd meddwl lleol, cenedlaethol, cyfoedion, cymunedol, elusennol, preifat a'r GIG at ei gilydd mewn un lle. 

https://hubofhope.co.uk/about-us  

BAVO  

Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr (BAVO) yw  

Cyngor Gwirfoddol Sirol Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ac mae'n rhan o Gefnogi Trydydd Sector Cymru (TSSW).  Mae BAVO yn darparu cefnogaeth a chymorth am ddim i grwpiau cymunedol a gwirfoddol, elusennau, sefydliadau dielw a mentrau cymdeithasol yn eu hardal, gan gynnwys y rhai sy'n darparu gwasanaethau iechyd meddwl, atal a lles. 

https://www.bavo.org.uk/cy/  

Interlink RhCT   

Interlink RhCT yw Cyngor Gwirfoddol Sirol Rhondda Cynon Taf ac mae'n rhan o Gefnogi Trydydd Sector Cymru (TSSW).  Mae Interlink RhCT yn darparu cefnogaeth a chymorth am ddim i grwpiau cymunedol a gwirfoddol, elusennau, sefydliadau dielw a mentrau cymdeithasol yn eu hardal, gan gynnwys y rhai sy'n darparu gwasanaethau iechyd meddwl, atal a lles. 

https://interlinkrct.org.uk/cy/  

GWEITHREDU GWIRFODDOL MERTHYR TUDFUL (VAMT) 

Gweithredu Gwirfoddol Merthyr Tudful (VAMT) yw Cyngor Gwirfoddol Sirol Merthyr Tudful ac mae’n rhan o Cefnogi Trydydd Sector Cymru (TSSW).  Mae VAMT yn darparu cefnogaeth a chymorth am ddim i grwpiau cymunedol a gwirfoddol, elusennau, sefydliadau dielw a mentrau cymdeithasol yn eu hardal, gan gynnwys y rhai sy'n darparu gwasanaethau iechyd meddwl, atal a lles. 

https://vamt.net/cy/