Isod mae rhestr o linellau cymorth, sefydliadau ac elusennau lleol a chenedlaethol a all gefnogi eich iechyd meddwl a'ch lles.
Sylwch nad yw Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn darparu'r gwasanaethau sy’n cael eu rhestru. Cysylltwch â'r sefydliad sy’n cael ei rhestru yn uniongyrchol i gael gwybodaeth a chymorth gan y gwasanaeth hwnnw.
Os oes angen i chi siarad â rhywun ar frys am eich iechyd meddwl, neu os ydych chi'n poeni am aelod o'r teulu, ffoniwch GIG 111 Cymru a dewiswch opsiwn 2 i gael eich rhoi mewn cysylltiad uniongyrchol â gweithiwr iechyd meddwl proffesiynol yn eich ardal. Mewn argyfwng sy'n peryglu bywyd, ffoniwch 999 bob amser.