Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth i Atgyfeirwyr

Yn dilyn cyfnod o ymgynghori a chydweithio â rhieni/gofalwyr a staff Addysg, fe wnaethon ni lansio ein gwaith papur atgyfeirio newydd ar gyfer plant oed ysgol ym mis Ionawr 2025.  Bellach mae gennym yr un gwaith papur a phrosesau ar draws Merthyr, Rhondda Cynon Taf a Phen-y-bont ar Ogwr.

Ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n mynychu’r ysgol, bydd angen i’n gwaith papur gael ei gwblhau gan y teulu a staff yr ysgol i ystyried atgyfeiriad:

Gellir naill ai llenwi ffurflenni fel dogfennau Word a’u hanfon drwy e-bost atom, neu drwy ein hopsiwn Microsoft Forms (wedi’i fewnosod yn y ffurflenni uchod).

Ar gyfer plant a phobl ifanc nad ydynt yn mynd i ysgol, byddwn yn ystyried atgyfeiriad sy’n cael ei wneud ar y cyd gan y teulu a gweithiwr iechyd/addysg/gofal cymdeithasol arall. Cysylltwch â ni i drafod hyn ymhellach.

Ar gyfer plant cyn oed ysgol, rydym yn awgrymu bod atgyfeiriadau yn dod oddi wrth Ymwelydd Iechyd y plentyn neu Seicolegydd Addysg Blynyddoedd Cynnar, mewn cydweithrediad â’r teulu.

O fis Chwefror 2026, rydym wedi cyflwyno ffurflen atgyfeirio newydd y gall Ymwelwyr Iechyd ei defnyddio ar y cyd â theuluoedd i ofyn am fewnbwn gan ein Paediatregwyr Cymunedol / Tîm Niwroddatblygiadol. Mae hon yn wasanaeth integredig ar draws BIP Cwm Taf Morgannwg, gydag un ffurflen atgyfeirio, y gellir ei lawrlwytho yma: Gwasanaeth Asesu Pediatreg Niwroamrywiaeth Cymunedol Ffurflen Atgyfeirio Ymwelydd Iechyd

Dilynwch ni: