Rydym yn cydnabod nad yw gofal menywod ag Endometriosis (Endo) yng Nghymru eto ar y safon yr hoffem ac rydym yn ymdrechu i wella hyn. Rydym yn ddyledus i waith FTWW, Endometriosis UK a menywod y grŵp cymorth lleol am eu hymgyrchu di-baid i wella'r ddarpariaeth gofal ac i sicrhau bod lleisiau menywod ag Endometriosis yn cael eu clywed.
Nod y tudalennau hyn yw eich helpu i ddeall mwy am eich Endometriosis, ac am ein gwasanaeth. Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau neu awgrymiadau ar gyfer gwella'r dudalen drwy ctm.endometriosis@wales.nhs.uk.