Mae pedwar tîm wedi'u lleoli yn Nhaf Elai, Rhondda Cynon, Pen-y-bont ar Ogwr a Merthyr Tudful. Mae’r rhain yn darparu ymyriadau cleifion allanol gan dîm amlddisgyblaethol i bobl ifanc sydd â phroblemau iechyd meddwl cyffredin. Mae gan bob tîm Seiciatrydd Ymgynghorol Plant a'r Glasoed dynodedig ac Arweinydd Band 7. Mae’r timau’n cynnig ymyriadau therapiwtig tymor byr wedi’u llywio gan seicoleg, grŵp, unigol a theuluol. Mae'r timau hefyd yn cadw achosion o dan Ran 2 o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru).