Neidio i'r prif gynnwy

Gofal Critigol Canmoliaeth, Pryderon ac Adborth


Gall goroeswyr Gofal Critigol brofi proses derbyn anodd, gydag anwyliaid, teulu a ffrindiau hefyd yn cael yr amser hwn yn heriol er gwaethaf y cymorth rydym yn anelu at ei ddarparu.

Fel tîm, rydym wedi ymrwymo i ddysgu a gwella drwy’r amser gan ymdrechu i ddarparu’r gofal gorau i bob claf a theulu rydym yn cwrdd â nhw. Hoffem glywed eich adborth ar y gwasanaeth a ddarparwn, gan gynnwys pethau a aeth yn dda, i ddiolch i rywun a wnaeth wahaniaeth neu i ddweud wrthym sut y gallem fod wedi gwneud yn well.

Mae croeso i chi gynnig yr adborth hwn i staff mewn Gofal Critigol. Neu fel arall, defnyddiwch weithdrefn y Bwrdd Iechyd i gofnodi cwynion a phryderon. Mae’r wefan ar gyfer hyn i’w gweld yma: https://bipctm.gig.cymru/cysylltwch-a-ni/pryderon-a-chwynion/

 

Dilynwch ni: