Neidio i'r prif gynnwy

Prolaps

Beth rydyn ni’n ei wneud

Rydyn ni’n ffisiotherapyddion arbenigol, sydd wedi cael ein hyfforddi ym maes iechyd y pelfis. Fel rhan o hyn, gallwn helpu gyda symptomau prolaps sy'n cynnwys teimlo lwmp, chwyddo, trymder, poen neu deimlad llusgo drwy'r wain. Mae prolaps organau’r pelfis yn digwydd pan fo organ pelfig, fel y bledren, y groth neu’r rectwm, yn cwympo o’i safle arferol ac yn gwthio yn erbyn wal y wain. Mae gwahanol fathau o brolaps yn dibynnu ar ba organ sydd wedi cwympo, ac ar ba ran o’r wain y mae hyn wedi effeithio arni. Mae’r organau hyn yn cael eu cynnal gan ligamentau a chyhyrau llawr y pelfis fel arfer. Pan fydd y strwythurau hyn yn cael eu gorymestyn neu eu gwanio, gall yr organ pelfig gwympo o’i safle naturiol. Mae’n gyffredin iawn, yn enwedig ymhlith menywod sydd wedi cael plant.

Mae llawer o’n cleifion yn teimlo bod eu prolaps yn cyfyngu ar eu gweithgarwch, ac maen nhw’n poeni y bydd gweithgareddau pob dydd neu ymarfer corff yn achosi i’w symptomau waethygu. Ein nod yw eich helpu i gymryd rheolaeth o’ch symptomau, sy’n cynnwys cryfhau cyhyrau llawr y pelfis yn aml. Gallwn ni eich helpu gyda phroblemau eraill mae hyn yn eu hachosi gyda’ch pledren a’ch coluddyn hefyd.

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Mae modd i’ch meddyg teulu, bydwraig, ymgynghorydd, nyrs ymataliaeth neu therapydd arall eich atgyfeirio.

Gallwch chi hefyd atgyfeirio eich hun drwy ffonio 01443 715012 i gael ffurflen hunan-asesu

Oriau agor
Dydd Llun i ddydd Gwener 8am – 4pm

Beth i'w ddisgwyl

Bydd ein tîm gweinyddol yn cysylltu â chi naill ai dros y ffôn neu drwy’r post. Byddwch yn cael eich gwahodd i sesiwn addysg llawr y pelfis i ddechrau. Bydd y sesiwn hwn yn rhoi llawer o wybodaeth werthfawr i chi am gyhyrau llawr y pelfis a’u rôl yn iechyd y prolaps ac anymataliaeth, ynghyd â llawer o gyngor defnyddiol am sut i ddechrau cymryd rheolaeth o’ch symptomau. Mae'n bwysig iawn eich bod chi'n dod i'r dosbarth cyn mynychu'r apwyntiad cyntaf. Ar ôl y dosbarth, gallwch wedyn drefnu asesiad unigol gyda ffisiotherapydd iechyd y pelfis arbenigol benywaidd, a fydd yn cael ei gynnal mewn ystafell driniaeth breifat. Efallai bydd angen gwneud asesiad o’r tu fewn i’ch gwain, er mwyn asesu cyhyrau llawr y pelfis a phenderfynu ar y driniaeth sydd orau i chi.

Os ydych chi am i rywun fod yno yn ystod yr asesiad, rhowch wybod i ni ymlaen llaw fel bod modd i ni drefnu hyn.

Peidiwch ag aildrefnu apwyntiad yn ystod eich mislif, gan fod opsiynau eraill ar gael o ran triniaeth ac asesu bob tro ar yr adeg hon.

Dewch â rhestr gyda chi o’r moddion rydych chi’n eu cymryd ar hyn o bryd hefyd.

Cysylltwch â ni

Gallwch gysylltu â’n tîm gweinyddol trwy ffonio 01443 715012 rhwng 8:30 a 15:30. Ar hyn o bryd rydym yn cynnig apwyntiadau yn Ysbyty Tywysoges Cymru, Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Ysbyty Cwm Cynon, ac Ysbyty'r Tywysog Siarl. Os byddai’n well gyda chi gael eich asesu a’ch trin yn y Gymraeg, mae hyn yn bosibl ar hyn o bryd yn Ysbyty Cwm Cynon, Aberpennar. Gofynnwch am hyn wrth ffonio i drefnu eich apwyntiad. Mae’n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i ni cyn gynted â phosibl os na allwch chi ddod i’r apwyntiad oedd wedi ei drefnu. Mae hyn yn rhoi’r cyfle i ni i gynnig yr apwyntiad i rywun arall, a thrwy wneud hynny gadw ein rhestrau aros mor fyr â phosibl. Efallai bydd angen gwneud asesiad o’r tu fewn i’ch gwain a/neu eich rectwm er mwyn asesu cyhyrau llawr y pelfis a phenderfynu ar y driniaeth sydd orau i chi.

Rydyn ni’n croesawu adborth ac awgrymiadau gan gleifion am sut y gallwn ni barhau i wella ar y gwasanaeth, felly mae croeso i chi gysylltu i roi eich sylwadau neu os ydych chi am siarad ag aelod o dîm iechyd y pelfis yr Adran Ffisiotherapi.

Dolenni defnyddiol

Dogfennau defnyddiol

Dilynwch ni: