Bydd optometrydd, a elwir hefyd yn eich optegydd lleol, yn eich cefnogi i ofalu am iechyd eich llygaid ac yn helpu i fynd i'r afael ag unrhyw bryderon a allai fod gennych gyda'ch llygaid.
Mae eich optometrydd lleol yn gallu gwneud diagnosis, ac mewn rhai achosion trin a rheoli eich anghenion llygaid, gan gynnwys rheoli cyflyrau hirdymor.
I ddod o hyd i'ch optometrydd agosaf, defnyddiwch y swyddogaeth chwilio. Fel arall, mae gan wefan GIG 111 Cymru wybodaeth ar gael am ba wasanaethau sydd ar gael ym mhob practis optometreg.
Yng Nghymru, gellir darparu ystod eang o wasanaethau gofal llygaid y GIG mewn practis optometreg leol o dan Wasanaeth Offthalmig Cyffredinol Cymru (WGOS).
I rai cleifion, bydd y gwasanaethau am ddim. Gallwch chi ddod o hyd i wybodaeth am y gwasanaethau hyn yma.