Gall deintydd helpu os oes gennych boen dannedd, deintgig sy'n boenus neu'n gwaedu, problem gyda childdant ôl, sensitifrwydd dannedd neu fathau eraill o boen wyneb.
Mae gan ddeintydd sgiliau a'r offer gorau i'ch helpu chi. Os ydych chi'n dioddef o boen deintyddol, gall deintyddion ymchwilio i'r achos a darparu'r driniaeth a'r cyngor gorau. Ni all eich meddyg teulu gymryd pelydrau-X o'ch ceg i ddarganfod yr achos.
Os ydych yn chwilio am ddeintydd GIG ar draws Rhondda, Cynon, Taf Elái, Merthyr neu Ben-y-bont ar Ogwr, y Porth Mynediad Deintyddol yw eich ffordd newydd o gofrestru eich diddordeb ar gyfer triniaeth ddeintyddol arferol y GIG. Am fwy o wybodaeth.
Os nad ydych wedi cofrestru gyda deintyddfa neu os ydych yn dioddef poen deintyddol y tu allan i oriau, gallwch gysylltu â'r Llinell gymorth ddeintyddol brys ar 0300 123 50 60.