Neidio i'r prif gynnwy

Haearn ac anaemia diffyg haearn mewn plant a phobl ifanc

Pam mae haearn yn bwysig?

Mae haearn yn fwyn pwysig sy'n helpu'r corff i wneud haemoglobin. Mae haemoglobin i'w gael mewn celloedd gwaed coch ac mae'n cludo ocsigen o amgylch y corff.

Os nad oes gan y corff ddigon o haearn, gall diffyg haearn ddatblygu. Os bydd hyn yn mynd yn fwy difrifol, gall arwain at anaemia diffyg haearn.

Nid oes gan rai plant sydd â diffyg haearn unrhyw symptomau amlwg. Gall eraill deimlo'n flinedig, bod â llai o egni neu ei chael hi'n anoddach canolbwyntio.

Arwyddion a symptomau

Gall arwyddion anaemia oherwydd diffyg haearn gynnwys:

  • Blinder neu egni isel
  • Croen gwelw
  • Llai o archwaeth
  • Problem wrth ganolbwyntio
  • Pen tost neu bendro
  • Teimlo'n fyr o anadl yn haws

Os ydych chi'n pryderu y gallai fod gan eich plentyn ddiffyg haearn neu anaemia diffyg haearn, siaradwch â'ch meddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol. Efallai y bydd angen prawf gwaed.

Pwy allai fod mewn perygl?

Gall plant a phobl ifanc fod mewn mwy o berygl o ddiffyg haearn os ydyn nhw:

  • Yn fabanod neu blant ifanc yn ystod cyfnodau o dwf cyflym
  • Wedi cael eu geni’n gynamserol
  • Yn bwyta amrywiaeth gyfyngedig o fwydydd
  • Yn dilyn deiet llysieuol neu feganaidd heb gynnwys bwydydd addas sy'n llawn haearn yn rheolaidd
  • Yn yfed llawer o laeth buwch, a all leihau eu harchwaeth am fwydydd sy'n llawn haearn
  • Gydag anghenion haearn cynyddol yn ystod cyfnodau o dwf cyflym
  • Yn profi mislifau trwm
  • Gyda rhai cyflyrau meddygol sy'n effeithio ar sut mae maetholion yn cael eu hamsugno neu sy'n achosi colli gwaed

Pwysig: Os yw eich plentyn wedi cael diagnosis o anaemia diffyg haearn, efallai na fydd newidiadau dietegol yn unig yn ddigon. Dilynwch y driniaeth a argymhellir gan eich gweithiwr gofal iechyd proffesiynol.

Sut alla i gynyddu haearn yn deiet fy mhlentyn?

Gall cynnwys bwydydd sy'n llawn haearn yn rheolaidd helpu eich plentyn i gael digon o haearn.

Bwydydd sy'n cynnwys llawer o haearn

  • Cig eidion ac oen
  • Ffa, corbys a ffacbys
  • Tofu
  • Cnau a hadau, lle bo'n briodol i oedran
  • Grawnfwydydd brecwast wedi'u cyfoethogi â haearn

Bwydydd eraill sy'n cynnwys haearn

  • Porc
  • Cyw iâr a thwrci
  • Pysgod
  • Wyau
  • Llysiau gwyrdd fel brocoli, cêl ac ysbigoglys
  • Bara cyfnerthedig
  • Ffrwythau sych

Ceisiwch gynnwys bwyd sy'n cynnwys haearn ym mhob prif bryd bwyd.

Helpwch eich plentyn i gael mwy o haearn

Yn gyffredinol, mae haearn o fwydydd anifeiliaid yn cael ei amsugno'n haws gan y corff na haearn o fwydydd planhigion.

Mae fitamin C yn helpu'r corff i amsugno haearn o fwydydd planhigion. Rhowch gynnig ffrwyth neu lysieuyn sy'n llawn fitamin C ochr yn ochr â phrydau bwyd.

Mae ffynonellau da o fitamin C yn cynnwys:

  • Aeron
  • Ffrwyth ciwi
  • Orennau a ffrwythau sitrws eraill
  • Pupurau
  • Tomatos
  • Brocoli

Cyfuniadau hawdd i roi cynnig arnyn nhw

  • Grawnfwyd brecwast cyfnerthedig gydag aeron neu giwi
  • Ffa ar dost gyda thomatos
  • Hwmws gyda stribedi pupur coch a melyn
  • Bolognese corbys gyda saws tomato
  • Cyri ffacbysen gyda phupurau a thomatos

Gall te a choffi leihau faint o haearn sy'n cael ei amsugno o fwyd ac ni chânt eu hargymell fel diodydd arferol i blant. Os yw plant hŷn neu bobl ifanc yn yfed te neu goffi, mae'n well osgoi eu cael gyda phrydau bwyd.

Syniadau prydau ymarferol

Brecwast

  • Grawnfwyd brecwast cyfnerthedig gyda ffrwythau
  • Uwd gyda hadau ac aeron
  • Tost gwenith cyflawn gyda menyn cnau daear a ffrwythau, lle bo'n briodol i oedran

Cinio

  • Wy ac ysbigoglys ar dost neu mewn brechdan
  • Wrap hwmws a llysiau
  • Ffa pob ar dost
  • Cawl corbys neu ffa gyda bara

Swper

  • Prydau briwgig cig eidion neu dwrci
  • Bolognese corbys
  • Cyri ffacbysen neu lentil
  • Tsili ffa
  • Pysgodyn gyda thatws, brocoli a phys

Does dim angen i chi baratoi prydau arbennig. Gall gwneud newidiadau bach i brydau teuluol bob dydd helpu i gynyddu faint o haearn mae eich plentyn yn ei fwyta.

Oes angen atchwanegiad bwyd haearn ar fy mhlentyn?

Bydd angen atchwanegiad bwyd haearn ar rai plant sydd ag anaemia diffyg haearn. Dylai hyn gael ei argymell neu ei bresgripsiynu gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol priodol.

Os yw atchwanegiad haearn wedi'i bresgripsiynu i'ch plentyn:

  • Rhowch ef yn y dos sy’n cael ei argymell
  • Dilynwch y cyfarwyddiadau sy’n cael eu ddarparu gan eich gweithiwr gofal iechyd proffesiynol
  • Parhewch i gymryd y bresgripsiwn am yr amser sy’n cael ei argymell
  • Parhewch i gynnig bwydydd sy'n llawn haearn fel rhan o ddeiet amrywiol

Cadwch atchwanegiadau haearn allan o gyrraedd plant. Gall cymryd gormod o haearn fod yn beryglus.

Peidiwch â rhoi atchwanegiad haearn i'ch plentyn i drin diffyg haearn a amheuir oni bai bod gweithiwr gofal iechyd proffesiynol wedi cynghori chi i wneud hynny.

Syniadau ryseitiau teuluol

Chwilio am ysbrydoliaeth? Mae gan NHS Healthier Families ryseitiau syml a fforddiadwy i'r teulu cyfan.

Mae'r ryseitiau hyn yn cynnwys ffynonellau haearn defnyddiol ochr yn ochr â ffrwythau neu lysiau:

Easy Chilli Con Carne - NHS Healthier Families
Mae cig eidion a ffa coch yn darparu haearn, ochr yn ochr â thomatos a phupur coch.

Vegetable Jalfrezi – NHS Healthier Families
Mae ffacbys a phys yn darparu ffynonellau haearn sy'n seiliedig ar blanhigion, ochr yn ochr â thomatos a phupur gwyrdd.

Hearty Vegetable and Lentil Soup – NHS Healthier Families
Mae corbys coch yn darparu haearn o blanhigion, ynghyd â llysiau gan gynnwys pupur coch.

Gellir dod o hyd i fwy o ryseitiau i’r teulu ar NHS Healthier Families.

Pryd dylwn i ofyn am gyngor?

Siaradwch â'ch meddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol os:

  • Ydych chi'n poeni y gallai fod gan eich plentyn ddiffyg haearn
  • Oes gan eich plentyn symptomau anaemia diffyg haearn
  • Oes gan eich plentyn ddeiet cyfyngedig iawn ac rydych chi'n poeni am ei gymeriant maethol
  • Yw haearn wedi cael ei bresgripsiynu i'ch plentyn ond rydych chi'n cael anhawster ei roi
  • Ydych chi'n poeni am dwf neu ddatblygiad eich plentyn

Dylid asesu a thrin anaemia diffyg haearn yn iawn. Gall cyngor dietegol gefnogi triniaeth ond ni ddylai ddisodli cyngor meddygol lle mae ei angen.

Rhagor o wybodaeth

Am ragor o wybodaeth am haearn ac anaemia diffyg haearn:

Dilynwch ni: