Rheolwr Proffesiynol Deieteg - Iechyd y Cyhoedd ac Arweinydd Rhaglen PIPYN Merthyr
Rheolwr Proffesiynol Deieteg - Iechyd y Cyhoedd ac Arweinydd Rhaglen PIPYN Merthyr
Helo, Shelley ydw i, Rheolwr Proffesiynol Deieteg ar gyfer Iechyd y Cyhoedd ac Arweinydd Rhaglen PIPYN Merthyr.
Rwy'n gweithio gyda chymunedau ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ac wedi gwneud hynny ers 2011.
Does dim byd yn rhoi mwy o foddhad i fi na darganfod beth mae cymunedau ei eisiau, cefnogi iechyd a lles a gweithio gyda nhw i ddylunio gwasanaethau maen nhw eu heisiau a'u hangen, a dydy PIPYN Merthyr ddim yn eithriad!
Dylunio gwasanaethau, a’u cefnogi hyd at eu rhoi ar waith a gwerthuso pa wahaniaeth maen nhw wedi'i wneud yw'r teimlad gorau erioed!
Mae gweithio gyda phlant a theuluoedd yn angerdd mawr i fi, gan fod gen i ferch 6 oed fy hun.
Fy hoff rysáit iach yw ein Cyri Cyw Iâr Ffrwythau a'n myffins sawrus. Mae fy nheulu cyfan yn caru'r ddau rysáit, maen nhw'n gyflym, yn hawdd, yn rhad i'w gwneud ac yn flasus. Mae'r myffins yn dda yn ffres, mewn pecynnau bwyd neu ar gyfer picnic.