Byddwn ni i gyd yn profi galar yn ein ffordd ein hun. Fodd bynnag, mae rhai teimladau a ffyrdd o ymateb sy’n eithaf cyffredin:
Mae galaru yn broses raddol a all gymryd amser hir; mae’n bwysig eich bod yn rhoi amser i chi eich hun i brosesu beth sydd wedi digwydd ac i ofalu amdanoch chi eich hun ar yr adeg hon.
Gall galar ddod mewn tonnau weithiau; gallwch chi deimlo’n iawn un funud cyn teimlo’n isel iawn y funud nesaf, neu gallwch chi gael diwrnodau da a diwrnodau drwg. Weithiau, os oedd perthynas heriol gyda chi â’r person sydd wedi marw, gall fod yn fwy anodd i chi yn hytrach nag yn llai anodd - efallai byddwch chi’n galaru am y berthynas roeddech chi’n ei dymuno ynghyd â galaru am y person sydd wedi marw.
Os ydych chi’n teimlo bod angen cymorth pellach arnoch gyda'ch iechyd meddwl, dylech estyn allan at eich meddyg teulu a fydd yn gallu gwrando ar eich teimladau ac asesu eich anghenion yn briodol.