Efallai y bydd y sefydliadau canlynol o gysur i chi dros y dyddiau, wythnosau a misoedd nesaf. Dydyn nhw ddim yn gysylltiedig â'r bwrdd iechyd yn uniongyrchol, ond rydym wedi cael gwybod y gallai eu gwasanaethau eich cynorthwyo ar yr adeg anodd hon. Gofalwch amdanoch eich hun ac estyn allan at y gweithwyr proffesiynol a restrir os ydych yn teimlo eich bod chi’n cael trafferth ymdopi â'ch galar a'ch colled.
Ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, rydym yn estyn ein cydymdeimlad dwysaf i chi ar farwolaeth rhywun agos atoch ac yn gobeithio y bydd y sefydliadau hyn yn ddefnyddiol i chi.
Os oes unrhyw gwestiynau gyda chi neu os hoffech roi unrhyw sylwadau neu adborth i ni ar ein llyfrynnau neu wasanaethau, mae croeso i chi e-bostio ctm.bereavementsupport@wales.nhs.uk.
Age UK Cymru
Sefydliad cenedlaethol sy'n helpu gyda theimladau o unigrwydd a galar mewn pobl hŷn.
Asian Family Counselling Service
At a Loss
Darparu cymorth a chefnogaeth leol a chenedlaethol.
Cymdeithas Cwnsela a Seicotherapi Prydain
Cyngor ar ddewis therapydd drwy restr o sefydliadau achrededig.
Bereavement Support Network
Brake
Mae'n cynnig cefnogaeth i bobl sydd mewn profedigaeth ac a anafwyd yn ddifrifol gan ddamweiniau traffig ar y ffyrdd.
Prosiect Cwnsela Breathe
Mae'n darparu cwnsela arbenigol a chymorth profedigaeth camarweiniol i bobl sydd wedi profi profedigaeth drawmatig a/neu alar cymhleth, trwy hunanladdiad neu o ganlyniad i Covid a heriau ychwanegol y pandemig.
Child Bereavement UK
Llinell cymorth a gwybodaeth.
Compassionate Friends
Rhieni mewn profedigaeth yn cynnig cymorth i eraill ar ôl colli plentyn o unrhyw oedran.
Cymru Garedig
Helpu pobl i gael gafael ar wybodaeth, gofal a chymorth a'u cynnig mewn ffordd dosturiol yn eu cymunedau.
Swyddfa’r Crwner
Cefnogaeth a gwybodaeth yn dilyn marwolaeth sydyn/annisgwyl.
Cruse Bereavement Care
Cynnig cefnogaeth, cyngor i oedolion, plant a phobl ifanc pan fydd rhywun yn marw.
DPJ Foundation
Mae'n darparu cymorth profedigaeth mewn amaethyddiaeth, gan gynnwys cefnogaeth i'r rhai sydd mewn profedigaeth yn sydyn a thrwy hunanladdiad.
Hope Again (Cruse)
Cefnogi pobl ifanc sydd wedi colli rhywun yn ddiweddar.
Llamau
Ei nod yw darparu ymateb amlhaenog i anghenion sy'n gysylltiedig â phrofedigaeth a cholled yn yr ystyr ehangach.
Llinell gymorth LHDTC+
Cefnogaeth i unrhyw un sydd wedi colli rhywun agos.
Macmillan
I gael cyngor cyfrinachol am ddim gan eu harbenigwyr canser, gallwch:
Cymorth Profedigaeth Marie Curie
Mae'n cynnig cymorth emosiynol yn ogystal â delio â'r ochr ymarferol o golli rhywun agos atoch chi.
Mind Cymru
Mae'n darparu cyngor a chefnogaeth i rymuso unrhyw un sy'n profi problem iechyd meddwl.
Morgan’s Wings
Darparu cefnogaeth i deuluoedd yn dilyn camesgoriad.
Y Samariaid
Gellir cysylltu â'r Samariaid ar unrhyw adeg, ddydd neu nos, a bydd rhywun ar gael i wrando a darparu cefnogaeth emosiynol gyfrinachol ac anfeirniadol.
SANDS
Mae SANDS yn darparu cefnogaeth i rieni sydd mewn profedigaeth a'u teuluoedd pan fydd eu babi yn marw adeg ei eni neu’n fuan ar ôl ei eni.
SOBS
Os ydych chi wedi cael profedigaeth neu eich effeithio gan hunanladdiad ac yr hoffech siarad ag un o'u gwirfoddolwyr am eich profiad, gallwch gysylltu â ni.
Welsh Widows
Grŵp o bobl sydd wedi colli eu hanwyliaid trwy amrywiaeth o amgylchiadau gwahanol, gan gynnig clust i wrando ar wefan neu yn bersonol, mewn amgylchedd diogel.
Widowed and Young (WAY)
Sefydliad sy'n cynnig rhwydwaith cymorth gan gymheiriaid i gymheiriaid i unrhyw un sydd wedi colli partner cyn eu pen-blwydd yn 51 oed – priod ai peidio, gyda neu heb blant, gan gynnwys cyfeiriadedd rhywiol, rhyw, hil a chrefydd.
Winston's Wish
Darparu cymorth profedigaeth emosiynol ac ymarferol i blant, pobl ifanc (hyd at 25) a'r rhai sy'n gofalu amdanyn nhw.
2wish
Cefnogi marwolaethau sydyn mewn plant ac oedolion ifanc.
Canllaw Cymorth Galar
Mae Canllaw Cymorth Galar ychwanegol ar gael er mwyn helpu pobl i ddod o hyd i gefnogaeth sy'n diwallu eu hanghenion unigol. Mae'n darparu gwybodaeth am yr amrywiaeth o gymorth galar sydd ar gael yn y DU, o adnoddau hunangymorth a llinellau cymorth i grwpiau cymorth gan gymheiriaid a chwnsela galar. Mae’r Canllaw hefyd yn cynnwys manylion cymorth i grwpiau penodol o bobl sydd wedi cael profedigaeth, fel gweddwon, plant, grwpiau diwylliannol a ffydd a phobl sydd wedi cael profedigaeth oherwydd mathau penodol o farwolaethau.
Cliciwch yma i lawrlwytho’r Canllaw, y mae croeso i chi ei argraffu a’i roi i rywun arall a all ei angen.
Mae'r Canllaw hefyd ar gael mewn Bengali, Tsieinëeg, Ffrangeg, Gwjarati, Chaboli, Portiwgaleg, Rwmaneg a Sbaeneg. Cliciwch yma ar gyfer cyfieithiadau.