Gall dod i'r ysbyty achosi pryder a straen i deuluoedd. Mae'r llyfryn hwn wedi'i ddatblygu i roi rhywfaint o wybodaeth y gallai fod ei hangen arnoch chi yn ystod eich arhosiad.
Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ein nod yw darparu gofal o’r safon uchaf i blant, pobl ifanc (CYP) a’u teuluoedd mewn amgylchedd croesawgar a chyfeillgar.
Bydd unrhyw driniaethau neu ymyriadau y gallai fod eu hangen ar eich plentyn yn cael eu hesbonio i chi.