Wrth i’ch plentyn gael ei dderbyn i uned asesu Buwch Goch Gota, bydd y Nyrs yn asesu'ch plentyn trwy ofyn manylion penodol am y salwch a chynnal arsylwadau fel pwls, tymheredd, cyfradd resbiradu, dirlawnder ocsigen, pwysau, taldra a phwysedd gwaed. Bydd y Nyrs yn gofyn am fanylion eich teulu fel cyfeiriad, ysgol, cofnod hanes meddygol, alergeddau ac ati. Gellir rhannu gwybodaeth am dderbyniad eich plentyn i'r uned â Gweithwyr Proffesiynol eraill yn ôl yr angen, mae'r rhain yn cynnwys ymwelydd iechyd, nyrs ysgol neu wasanaethau cymdeithasol yn dibynnu ar y rheswm dros dderbyn
Yn dilyn yr asesiad hwn, bydd y Meddyg Iau / Ymarferydd Nyrs Paediatrig Uwch ac yna'r cofrestrydd/ymgynghorydd yn asesu'ch plentyn ac yn gwneud cynllun gofal/triniaeth. Mae'n debyg y bydd eich plentyn yn gweld ychydig o feddygon trwy gydol ei arhosiad.