Neidio i'r prif gynnwy

Ward Lindys

Yn dilyn asesiad meddygol, os bydd yn rhaid i’ch plentyn aros i mewn am fwy nag ychydig oriau, mae’n bosib y bydd yn cael ei drosglwyddo i Ward Lindys y Plant. Mae'r Uned yn gweithredu ymagwedd nyrs benodedig ar gyfer darparu gofal nyrsio. Dyma lle mae Nyrs Gofrestredig fesul sifft yn gyfrifol am ofal eich plentyn. Bydd y nyrs yn cyflwyno ei hun ar ddechrau ei sifft.

Os oes unrhyw feddyginiaeth gyda chi naill ai ar gyfer eich plentyn neu at eich defnydd personol eich hun, rhowch ef i'r nyrs a gall ei gloi yn troli storio’r ward am resymau diogelwch.

Meddyginiaeth y Rhiant/Gofalwr ei hun - Gofynnwch am hyn gan eich nyrs benodedig pan fydd angen i chi roi eich meddyginiaeth eich hun, a dychwelyd at y nyrs i’w storio’n ddiogel.

Mae pob plentyn/babi yn gwisgo breichled adnabod. Os oes unrhyw broblemau neu os bydd y freichled adnabod yn dod i ffwrdd neu’n cael ei difrodi, rhowch wybod i aelod o staff ar unwaith.

Peidiwch â chymryd eich plentyn oddi ar y ward oni bai eich bod chi wedi trafod hyn gyda’r nyrs.

Wrth fynd i mewn neu adael y ward, mae drysau diogelwch a fydd yn gofyn i chi wthio'r seinydd a bydd rhywun yn ateb cyn gynted â phosibl. Mewn amseroedd prysur, gall hyn gymryd peth amser, ond arhoswch yn amyneddgar.

Gwnewch yn siŵr bod y drws diogelwch yn cau'n ddiogel y tu ôl i chi i wella diogelwch y plant, a pheidiwch â gadael i unrhyw un fynd i mewn neu adael gyda chi. Bydd angen i bob person wthio’r seinydd a siarad ag aelod o staff.

Rydyn ni’n cloi prif ddrysau’r ward am 10pm. Dim ond o dan amgylchiadau eithriadol y dylech fynd allan o'r adeilad ar ôl 10pm. Os oes angen gwneud hynny, rhowch wybod i aelod o staff eich bod chi’n gadael y ward.

Mae BIPCTM yn gweithredu POLISI DIM YSMYGU. Dydy ysmygu a fepio ddim yn cael ei ganiatáu ar safleoedd ein hysbytai. Rhowch wybod i'r staff os ydych yn gadael y ward neu os oes angen gadael eich plentyn heb oruchwyliaeth ar y ward am gyfnod byr.

Bob dydd Mercher mae prawf larwm tân, sy'n digwydd yn y bore -  peidiwch â phoeni am hyn.

Os yw'r larwm tân yn canu, arhoswch am gyfarwyddiadau pellach gan aelod o'r tîm.

Dilynwch ni: