Neidio i'r prif gynnwy

Ymgysylltiad â'r Cyhoedd Rhwydwaith Fasgwlaidd De-ddwyrain Cymru

Rhwng 19 Chwefror ac 16 Ebrill 2021, cynhaliodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ymgysylltiad â’r cyhoedd ar gynnig i ad-drefnu gwasanaethau fasgwlaidd lleol yn fodel ‘prif ganolfan a lloerennau’. 

Mae clinigwyr yn cytuno bod hwn yn fodel darparu cynaliadwy a fydd yn darparu’r canlyniadau gorau i’r holl gleifion o fewn y rhanbarth ac yn gwneud y defnydd gorau o sgiliau a staff yn ôl cyngor y Gymdeithas Fasgwlaidd. 

Ymgysylltu â’r cyhoedd 

Roedd y broses ymgysylltu yn gofyn am adborth gan y cyhoedd ar y cynnig i leoli hwb llawfeddygaeth fasgwlaidd ar gyfer De-ddwyrain Cymru yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, gyda’r prif wasanaethau ysbyty lloeren yn aros yn Ysbyty Brenhinol Gwent, Ysbyty Athrofaol y Faenor, Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Ysbyty Athrofaol Llandochau ac Ysbyty Athrofaol Cymru, a gofal yn aros yn agosach at gartrefi lle bynnag y bo’n bosibl. 

  • Gwnaeth 110 o bobl ymateb i’r ymgysylltiad drwy arolwg ar-lein 

  • Cynhaliwyd 7 cyfarfod cyhoeddus rhithwir gyda chyfanswm o 29 o bobl yn ymuno 

  • Trafodwyd cynigion mewn cyfarfod Trydydd Sector ac mewn ystod o gyfarfodydd gyda rhanddeiliaid mewnol 

Diolch i bawb a gymerodd y cyfle i roi adborth, drwy ddigwyddiadau ymgysylltu â’r cyhoedd, yr arolwg ar-lein, dros e-bost neu ar y cyfryngau cymdeithasol. 

Beth a ddywedoch wrthym 

O’r rhai hynny a gymerodd ran yn yr arolwg ar-lein, roedd 72% yn cytuno â’r dystiolaeth genedlaethol a’r argymhelliad gan yr arfarniad o opsiynau clinigol y byddai model prif ganolfan a lloerennau yn gwella gwasanaethau fasgwlaidd a chanlyniadau i gleifion yn Ne-ddwyrain Cymru. 

Daeth nifer o themâu cyffredin i’r amlwg o’r adborth a gafwyd mewn ymateb i’r cwestiynau ymgysylltu ac mewn fformatau eraill, gan gynnwys sylwadau a wnaed yn y digwyddiadau cyhoeddus ac i randdeiliaid. 

Nodwyd y themâu canlynol: 

  • Trefnu ac integreiddio gwasanaethau rhwydwaith 

Gwnaeth ymatebwyr amlygu’r syniadau neu’r problemau penodol sy’n gysylltiedig â darparu ac integreiddio gwasanaeth o fewn y rhwydwaith arfaethedig ac yn y prif ganolfan a’r lloerennau. Roedd pobl eisiau sicrwydd bod y model yn ddigonol. 

  • Lleoliad y prif ganolfan a’r lloerennau 

Codwyd cwestiynau ynghylch lleoliadau’r prif ganolfan a’r lloerennau a pham eu bod wedi’u dewis. 

  • Hygyrchedd a thrafnidiaeth 

Mynegodd y rhai a oedd yn cymryd rhan pa mor bwysig yw ystyried trefniadau teithio a pharcio mewn safleoedd ysbyty. 

  • Y gofal a ddarperir 

Roedd aelodau o’r cyhoedd yn poeni am effaith pandemig COVID-19 ar amseroedd aros a darpariaeth y gwasanaethau. 

  • Y broses ymgysylltu 

Gwnaeth sylwadau ynghylch cwmpas yr ymgysylltu, sut yr ymgynghorwyd â’r cyhoedd ac ym mha ffordd. 

  • Effaith ar wasanaethau eraill 

Gwnaeth y cyhoedd gwestiynau effaith y model ar wasanaethau sy’n bodoli eisoes yn Ysbyty Athrofaol Cymru ac i ba raddau y mae anghenion y dyfodol wedi’u hystyried. 

  • Gweithlu 

Gwnaeth yr ymatebwyr a’r rhai a oedd yn cymryd rhan leisio pa mor bwysig yw hyfforddiant proffesiynol a’r cyfleoedd i ddatblygu ar gyfer yr holl staff yn y rhwydwaith, yn ogystal â chodi cwestiynau ynghylch sut y dylid staffio Rhwydwaith Fasgwlaidd De-ddwyrain Cymru. 

  • Cyfathrebu 

Gwnaeth yr ymatebwyr amlygu pwysigrwydd cyfathrebu a gweithio ar y cyd ar draws pedwar o ardaloedd y Bwrdd Iechyd. Atgyfnerthwyd pwysigrwydd cyfathrebu rhwng cleifion a’u teuluoedd yn ystod eu harhosiad fel cleifion mewnol hefyd. 

  • Materion ariannol 

Mynegwyd pryder ynghylch ariannu annigonol ar gyfer y Byrddau Iechyd a goblygiadau ariannol gweithredu model rhwydwaith yn yr ardal. 

Ceir disgrifiad mwy manwl o’r themâu hyn yn yr adroddiad ymgysylltu llawn yn ogystal â’r ymateb i’r materion a godwyd. Mae hyn yn cynnwys pa gamau gweithredu a gymerir i fynd i’r afael â’r materion yn rhan o ddatblygiad parhaus y rhwydwaith. Defnyddir yr holl adborth i sicrhau bod gwasanaethau’r dyfodol yn cael eu gweithredu’n addas gyda’r ystyriaethau cywir, gan gael effaith gadarnhaol ar gleifion, eu teuluoedd a staff y GIG. 

Y canlyniad 

Mae Cynghorau Iechyd Cymuned a Byrddau Iechyd partner wedi adolygu canfyddiadau’r ymgysylltiad yn annibynnol ac wedi cefnogi’r achos i symud ymlaen gyda’r rhaglen waith, yn amodol ar weld y materion a godwyd yn ystod yr ymgysylltiad yn cael eu datrys yn y cam gwaith nesaf, fel yr amlinellir yn yr adroddiad. 

Beth nesaf? 

Bydd y gwaith cynllunio ffurfiol ar gyfer Rhwydwaith Fasgwlaidd De-ddwyrain Cymru bellach yn cael ei weithredu a bydd y Byrddau Iechyd yn sefydlu model prif ganolfan a lloerennau newydd ar y cyd, gan gynnwys seilwaith ac adnoddau. Darperir diweddariadau pellach wrth i’r gwasanaeth ddatblygu. 

Gweler Adroddiad Ymgysylltu â’r Cyhoedd Rhwydwaith Fasgwlaidd De-ddwyrain Cymru yma. 

Dilynwch ni: