Neidio i'r prif gynnwy

Yr Ymchwiliad i Waed Heintiedig

Bydd adroddiad terfynol yr Ymchwiliad i Waed Heintiedig yn cael ei gyhoeddi ar 20 Mai 2024 yn dilyn ymchwiliad statudol cyhoeddus annibynnol.

Cafodd yr Ymchwiliad ei sefydlu yn 2017 i archwilio’r amgylchiadau pan roddwyd cynhyrchion gwaed heintiedig i ddynion, menywod a phlant a gafodd driniaeth gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn y Deyrnas Unedig rhwng 1970 a 1991.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr Ymchwiliad ar wefan yr Ymchwiliad i Waed Heintiedig yma.   

Mae’r Bwrdd Iechyd wedi ymrwymo i gefnogi pobl sydd â chwestiynau am ofal a byddwn yn dilyn y dull Dyletswydd Gonestrwydd ac yn rhannu unrhyw gofnodion meddygol sydd ar gael ar gais. Rydym wedi ymrwymo i fod yn agored, yn dryloyw ac yn onest gydag unrhyw un sy'n cysylltu â ni. I gael rhagor o wybodaeth am y Ddyletswydd Gonestrwydd, cliciwch yma

Os ydych chi'n poeni y gallech chi neu rywun annwyl fod wedi’ch heintio neu eich effeithio gan gynhyrchion gwaed heintiedig, mae ein Tîm Pryderon ar gael i drafod hyn gyda chi.

I gysylltu â’r Tîm Pryderon, gallwch:

Ffônio: 01443 744915

E-bostio: CTHB_Concerns@wales.nhs.uk

Os ydych yn byw y tu allan i ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, cysylltwch â’ch Bwrdd Iechyd. Mae rhestr o'r holl Fyrddau Iechyd yng Nghymru i'w gweld yma.

Mae tîm Rhwydwaith Anhwylder Gwaedu Cymru yn y Ganolfan Haemoffilia yng Nghaerdydd wedi sefydlu llinell ffôn a chyfeiriad e-bost pwrpasol i gefnogi cleifion a theuluoedd sydd wedi’u heintio neu yr effeithir arnynt gan gynhyrchion gwaed heintiedig yng Nghymru. Bydd y rhain yn gweithredu o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 4pm.

I gysylltu â thîm Rhwydwaith Anhwylder Gwaedu Cymru, gallwch:

E-bostio: BDNW.InfectedBloodInquiry.Cav@wales.nhs.uk  
Ffônio: 0800 952 0055   

Fel arall, gallwch gysylltu â Haemoffilia Wales drwy info@haemoffiliawales.org

Gallwch ddod o hyd i atebion i gwestiynau cyffredin a gwybodaeth am gymorth arall sydd ar gael trwy glicio ar y ddolen isod

Cwestiynau Cyffredin

Dilynwch ni: