Bydd uned mân anafiadau’n addas os oes un o’r achosion canlynol gydag oedolyn neu blentyn sy’n hŷn nag un flwydd oed:
Mae ein hunedau mân anafiadau ar agor rhwng 9am a 4.30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio ar wyliau’r banc).
Sut mae modd mynd i uned mân anafiadau?
Ysbyty Cwm Rhondda
Rhaid ffonio 111 i drefnu apwyntiad cyn ymweld.
Ysbyty Cwm Cynon
Mae Uned Mân Anafiadau Ysbyty Cwm Cynon bellach wedi ail-agor. Mae'r Uned ar agor ar hyn o bryd ar ddydd Mawrth a dydd Iau 9am-11am. Sylwch – mae’r Uned bellach yn cael ei rhedeg ar sail apwyntiad yn unig – drwy ffonio 01443 444075 neu 01443 444060 – byddwch wedyn yn cael eich brysbennu dros y ffôn ac yn cael eich cyfeirio at y gwasanaeth mwyaf priodol i’ch helpu gyda’ch cyflwr. Dim ond pobl dros 16 oed y gall yr UMA eu trin, bydd plant dan 16 oed yn cael eu cyfeirio at y gwasanaeth brysbennu cywir (galwad ffôn). Ewch i'n gwefan am fwy o wybodaeth.