Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Diabetes Pediatrig

Trosolwg o Wasanaeth Diabetes Pediatrig:

Rydym yn dîm amlddisgyblaethol o Nyrsys Arbenigol Clinigol, Ymgynghorwyr Pediatrig, Deietegwyr Arbenigol a Seicolegydd Clinigol sy'n gofalu am blant a phobl ifanc sydd â diagnosis o Ddiabetes. Rydym yn gweithio'n agos i ddarparu gofal arbenigol i blant a phobl ifanc â Diabetes ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Os ydych chi'n poeni bod eich plentyn yn dangos arwyddion o ddiabetes, gofynnwch am gymorth a chyngor brys gan y meddyg teulu neu'r adran damweiniau ac achosion brys leol. Os caiff plentyn neu berson ifanc ddiagnosis o ddiabetes, cânt eu cyfeirio at ein Gwasanaeth Diabetes Pediatrig ar gyfer eu gofal parhaus.

Poster Ymgyrch Diabetes UK 4 Ts ar gyfer Canfod Arwyddion Diabetes Math 1: https://www.diabetes.org.uk/about-diabetes/type-1-diabetes/symptoms

4T o Diabetes Math 1 / Arwyddion o Diabetes Math 1

  • Ar gyfer ymholiadau nad ydyn nhw’n rhai brys i Dîm Diabetes Cwm Taf Morgannwg, cysylltwch â Nyrs Arbenigol Diabetes Pediatrig lleol eich plentyn neu e-bostiwch CTM.PaediatricDiabetes@wales.nhs.uk. Os oes gennych unrhyw ymholiadau brys, cysylltwch â’ch Ward Plant leol.
Gwasanaethau sy'n cael eu cynnig

Clinigau Tîm Amlddisgyblaethol: Cynnal clinigau dilynol rheolaidd gyda'r Ymgynghorydd Diabetes Paediatrig, Nyrs Diabetes Arbenigol Paediatrig, Deietegydd Diabetes Arbenigol Paediatrig a Seicolegydd Clinigol Paediatrig ar gyfer Diabetes o leiaf 4 gwaith y flwyddyn i gefnogi rheoli diabetes. Cynhelir profion HbA1c ym mhob apwyntiad gan ddefnyddio sampl gwaed pigiad bys, i roi darlleniad cyfartalog ar gyfer rheoli glwcos dros (tua) y 3 mis diwethaf.

Clinigau a Arweinir gan Nyrs/Clinigau Deieteg Nyrsio

Apwyntiad gyda’r Nyrs Arbenigol a/neu Ddietegydd Arbenigol ar gyfer cymorth ychwanegol gyda rheoli diabetes, cynlluniau triniaeth, cychwyn offer newydd neu bympiau inswlin a sesiynau cyfrif carbohydradau pan fo angen.

Adolygiadau Blynyddol

Yn digwydd unwaith y flwyddyn gyda'r tîm amlddisgyblaethol i adolygu pob agwedd ar reoli diabetes. Bydd hyn yn cynnwys profion blynyddol o waed ac wrin.

Atgyfeiriad at Sgrinio Retinopathi

Fel rhan bwysig o reoli diabetes, bydd pob plentyn a pherson ifanc dros 12 oed yn cael llun digidol o'u llygaid wedi'i dynnu gan wasanaeth Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru. Mae plant dan 12 oed yn cael eu cynghori i gael prawf llygaid gan optegydd lleol.

Gwasanaeth Seicoleg

Fel rhan o'n tîm diabetes, mae ein Seicolegydd Clinigol ar gael i siarad â phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd fel rhan arferol o ofal diabetes i gynnig cymorth gyda rheoli diabetes yn ddyddiol.

Cymorth Iechyd Meddwl Brys:
  • Os ydych yn pryderu am blentyn neu berson ifanc mewn argyfwng iechyd meddwl neu mewn perygl o niwed oherwydd eu hiechyd meddwl, cysylltwch â meddyg teulu neu ewch i adran damweiniau ac achosion brys lleol.
Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl:
Adolygiadau Rhithwir ac Anghysbell

O fewn gofal diabetes, mae'n bosibl uwchlwytho data yn awtomatig neu â llaw o fesuryddion glwcos yn y gwaed, pympiau inswlin ac apiau cyngor bolws, y gellir eu hanfon at y tîm diabetes. Mae hyn yn ein galluogi i adolygu canlyniadau plentyn neu berson ifanc a gwneud newidiadau yn ôl yr angen, heb iddyn nhw orfod mynychu apwyntiad clinig.

Trawsnewid i Wasanaethau Oedolion

Bydd y Tîm Diabetes Paediatrig yn cefnogi trosglwyddiad pob person ifanc i Wasanaethau Diabetes Oedolion tua'u pen-blwydd 18 oed. Fel rhan o hyn mae cynllun gofal 2 flynedd sy'n dechrau tua 16 oed wrth baratoi ar gyfer bod yn oedolyn, gan gynnwys rhaglen addysg o'r enw Seren Connect a chlinigau ar y cyd gyda'r tîm diabetes oedolion.

Hyfforddiant Ysgol

Rydym yn darparu hyfforddiant diabetes i staff ysgol i sicrhau bod holl blant a phobl ifanc ardal Cwm Taf Morgannwg yn cael y cymorth cywir i reoli eu diabetes tra yn yr ysgol.

Adolygiadau Cleifion Mewnol

Rydym yn darparu addysg a chymorth i deuluoedd ar adeg diagnosis pan rydyn nhw'n cael eu derbyn i ward y plant. Rydym hefyd yn adolygu plant a phobl ifanc os ydyn nhw byth yn cael eu derbyn i'r ward plant ar ôl diagnosis. Rydym yn darparu addysg a chymorth i deuluoedd ar adeg diagnosis pan rydyn nhw'n cael eu derbyn i ward y plant. Rydym hefyd yn adolygu plant a phobl ifanc os ydyn nhw byth yn cael eu derbyn i'r ward plant ar ôl diagnosis.

Llythyrau

Gallwn ddarparu llythyrau cefnogi, fel ar gyfer ceisiadau Teithio a Lwfans Byw i'r Anabl/Taliadau Annibyniaeth Bersonol

Gwasanaeth Pwmp Inswlin

Gwasanaeth pwmp inswlin: Rydym yn cefnogi plant a phobl ifanc i gael mynediad at therapi pwmp inswlin a chychwyn y defnydd ohono, gan gynnwys Pympiau Dolen Caeedig Hybrid.

Sylwch: Rydym yn cynghori pe bai gennych broblem gyda'ch pwmp neu gyflenwadau inswlin, neu os oes gennych ymholiad technegol ynghylch eich dyfais, cysylltwch â'r cwmni pwmp priodol i gael cymorth

Daflenni Defnyddiol

 Fy Ngwiriadau Iechyd Diabetes (PDF, 584Kb)
 Canllaw Cyflym i'ch Adolygiad Diabetes (PDF, 256Kb)
 Canllaw Cyflym ar Beth i'w Ddisgwyl Mewn Clinig Tîm Amlddisgyblaethol Diabetes (PDF, 215Kb)
Dilynwch ni: