Mesurau Canlyniadau a Adroddir gan Gleifion a Mesur Profiad a Adroddir gan Glaf
Mae'r cwestiynau a anfonwyd atoch yn gwestiynau asesu iechyd sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'ch gofal iechyd. Maen nhw hefyd yn cael eu galw’n PROMs (Mesurau Canlyniadau a Adroddir gan Gleifion) a PREMs (Mesurau Profiad a Adroddir gan Gleifion). Mae'r wybodaeth a roddwch yn helpu'r tîm clinigol i ddeall eich cyflwr yn well, monitro eich cynnydd, a gwneud penderfyniadau gwybodus am eich gofal.
Mae'r cwestiynau a anfonwyd atoch yn gwestiynau asesu iechyd sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'ch gofal iechyd. Maen nhw hefyd yn cael eu galw’n PROMs (Mesurau Canlyniadau a Adroddir gan Gleifion) a PREMs (Mesurau Profiad a Adroddir gan Gleifion). Mae'r wybodaeth a roddwch yn helpu'r tîm clinigol i ddeall eich cyflwr yn well, monitro eich cynnydd, a gwneud penderfyniadau gwybodus am eich gofal. Mae’n cael ei ddefnyddio hefyd i sicrhau bod y driniaeth a gewch yn sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i chi. Gallwch ddarganfod mwy amdanyn nhw trwy gyrchu'r fideo byr hwn -
Saesneg https://youtu.be/xv3jhwCiIUo?feature=shared
Cymraeg https://youtu.be/yZpH4sJpNcI?feature=shared
Iaith Arwyddion Prydain https://youtu.be/OMWZ7AMnS0s?feature=shared
Rydym yn defnyddio system Asesu Iechyd Digidol i gasglu gwybodaeth bwysig am eich iechyd a lles. Mae'r system hon yn eich galluogi i rannu manylion, fel llenwi ffurflenni iechyd neu roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am sut rydych chi'n teimlo. I gael rhagor o fanylion am sut mae’r system Asesu Iechyd Digidol yn gweithio a beth i’w ddisgwyl, ewch i: https://ctmuhb.nhs.wales/about-us/value-based-health-care/completing-digital-health-assessments-frequently-asked-questions. Os oes angen help arnoch i gwblhau'r asesiad iechyd gallwch drafod hyn gyda'n tîm Cadw mewn Cysylltiad.
Bydd eich asesiadau iechyd yn cael eu hanfon atoch pan fyddwch yn cael eich ychwanegu at restr aros, ac yna bob chwe mis.
Bydd ein tîm clinigol yn adolygu'r asesiadau iechyd sy’n cael eu derbyn fel y gallwn weld sut yr ydych yn dod ymlaen. Yn dibynnu ar eich atebion, efallai y bydd ein tîm mewn cysylltiad i gynnig cefnogaeth i chi ar sut i gadw'n iach tra byddwch yn aros am driniaeth. Mae hyn yn sicrhau bod gennym ddealltwriaeth gynhwysfawr o'ch iechyd a gallwn ddarparu'r driniaeth gywir ar yr amser cywir. Ni fydd llenwi'r ffurflen yn effeithio ar eich safle ar y rhestr aros.