Neidio i'r prif gynnwy

Beth allwch chi ei ddisgwyl gan wasanaethau Hyrwyddo, Atal a Pharatoi. 

Bydd gwasanaethau Hyrwyddo, Atal a Pharatoi yn eich helpu i:  

  • Hyrwyddo penderfyniadau a ffyrdd iach o fyw i leihau'r risg o ddatblygu salwch 

  • Gwybod beth i'w wneud i atal eich cyflwr rhag gwaethygu 

  • Paratoi i'ch triniaeth fod yn llwyddiant 

Yr Egwyddorion 

Cyfathrebu 

  • Mae gwybodaeth yn hygyrch i mi, ac mae fy anghenion cyfathrebu unigol yn cael eu diwallu 

  • Rydw i’n gwybod bod fy atgyfeiriad wedi cael ei dderbyn a pha restr aros yr ydw i arni 

  • Rydw i’n gallu dewis sut mae gwasanaethau yn cyfathrebu â mi 

  • Rwy’n gwybod sut y galla i gael gwybodaeth am ba gymorth sydd ar gael i mi wrth aros trwy’r Gwasanaeth Cymorth Rhestr Aros ar wefan y Bwrdd Iechyd 

  • Rydw i’n gallu cael mynediad at y wybodaeth ddiweddaraf am fy amser aros 

  • Rydw i’n gallu rhoi gwybod i’r tîm os yw fy symptomau a’m sefyllfa yn gwella neu’n gwaethygu 

Gwneud Penderfyniadau ar y Cyd 

  • Rwy’n deall yr opsiynau sydd ar gael i mi am fy nhriniaeth a sut i gael cymorth 

  • Mae gen i fynediad at eiriolwr os oes angen 

  • Rydw i wedi cael digon o wybodaeth i’m helpu i wneud penderfyniadau gwybodus am fy ngofal a’m cymorth. 

  • Mae gen i wybodaeth glir am ddisgwyliadau wrth baratoi ar gyfer fy nhriniaeth ac adferiad. 

  • Mae gen i ddigon o wybodaeth, dealltwriaeth a chefnogaeth i fod yn hyderus fel partner cyfartal yn fy ngofal fy hun 

Gwybodaeth 

  • Mae gen i fynediad at wybodaeth ac addysg glir, gan gynnwys beth sydd ar gael yn fy nghymuned i gefnogi fy hunanreolaeth 

  • Mae gen i ymwybyddiaeth o'r gwahanol opsiynau triniaeth sydd ar gael i mi 

  • Rydw i’n gallu cyrchu a deall y wybodaeth sy’n cael ei chyfeirio ata i. 

  • Rydw i’n gallu rhoi adborth mewn fformat o’m dewis am y gwasanaethau yr wyf wedi’u defnyddio ac a ydynt wedi gwneud gwahaniaeth 

  • Rwy’n deall y rhesymau pam fod angen i mi ddarparu gwybodaeth ac adborth ac rwy’n gwybod ar gyfer beth y caiff ei ddefnyddio  

Dilynwch ni: