Mae gwasanaethau diabetes wedi symud i Ganolfan Hummingbird, Campws Gwyddoniaeth Gwaun Elái Medi, Heol Cwm Elái, Llantrisant CF72 8XL. Mae Canolfan Hummingbird wedi'i nodi ar y map isod. Wrth wynebu Ysbyty Brenhinol Morgannwg, mae Canolfan Hummingbird i'r dde a gellir cael mynediad iddi ar droed.
Mae mannau parcio ar gael y tu allan i’r adeilad gyda pharcio gorlifo ym mhrif faes parcio Ysbyty Brenhinol Morgannwg ychydig o waith cerdded i ffwrdd. Mae safle bws wedi'i leoli ar y brif ffordd ychydig y tu allan i'r ffordd bengaead.
Os nad oes gennych fynediad at gludiant a bod gennych angen meddygol nad yw’n caniatáu ichi ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, efallai y byddwch yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd a bennwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer trafnidiaeth ambiwlans. Cysylltwch â 0300 123 2303 i ofyn am gludiant ambiwlans.
Wrth i ni ysgrifennu'r darn hwn byddwch yn ymwybodol mai cyngor cyfredol y llywodraeth yw y dylai pawb, gan gynnwys pobl â diabetes, fod yn aros gartref ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol, fel:
Gall y wybodaeth hon newid ac i gael y cyngor diweddaraf ewch i:
Yn olaf, gwelwch isod ddolenni defnyddiol ychwanegol a gwybodaeth gyffredinol ar gyfer pobl â diabetes sydd ar gael i ni trwy Grŵp Gweithredu Cymru Gyfan:
Dolenni defnyddiol eraill ar gyfer Cyngor
Gwybodaeth gyffredinol i bobl â diabetes