Neidio i'r prif gynnwy

Llinell gyngor i'r rheiny rhwng 5 a 17 oed

Oes cwestiwn gyda chi sydd heb ei ateb?

Rydyn ni am i chi a'ch teulu gael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi fel y gallwch chi benderfynu ynglŷn â chael y brechlyn rhag COVID-19 ai peidio.

Os ydych chi wedi darllen yr holl wybodaeth ac yn dal i fod â chwestiwn, gallwch chi ddefnyddio ein llinell gymorth arbennig i'r rheiny rhwng 5 a 17 oed.

Llenwch y ffurflen isod, gofynnwch eich cwestiwn i ni, a rhowch wybod i ni sut hoffech chi i ni gysylltu â chi a bydd un o'n harbenigwyr brechu yn cysylltu â chi.

Mae ein llinell gymorth ar agor i blant a phobl ifanc 5-17 oed a’u rhieni/gwarcheidwaid. Does dim modd ei defnyddio i drefnu nac ail-drefnu apwyntiadau (defnyddiwch y rhif ar eich llythyr apwyntiad ar gyfer hynny) a ddylech chi ddim ei chymysgu â'n llinell gyngor brechu generig.

Dilynwch ni: