Neidio i'r prif gynnwy

Yr Hwb Newid

Pwy ydym ni?

Mae'r Hwb Newid, a elwid gynt yn Swyddfa Rheoli Rhaglenni (PMO), yn cynnwys grŵp o unigolion sy'n ymwneud ag amrywiaeth o wahanol brosiectau. Mae tîm yr Hwb Newid yn cydweithio â phob lefel o’r sefydliad i ddiffinio nodau, i rymuso eraill a chefnogi timau ehangach i sicrhau bod newid yn cael ei gyflawni i’r safon orau bosib.

Mae tîm yr Hwb Newid yn cefnogi’r sefydliad ehangach gyda’u doniau, eu harbenigedd a’u cyngor ymarferol ac maen nhw yma i helpu ac ymgysylltu â gweithwyr fel y gallan nhw wynebu anawsterau a gwneud y gorau o unrhyw gyfleoedd.

Cefndir

Sefydlwyd y PMO yn 2013. Yn fwyaf diweddar mae'r Hwb Newid bellach wedi dod o dan ICTM lle mae’n canolbwyntio ar feithrin gallu yn unol â Strategaeth CTM 2030: Ein Hiechyd, Ein Dyfodol.

Astudiaethau Achos yr Hwb Newid