Beth yw Arloesedd?
Mae arloesi yn un o'r ffyrdd y gellir ei ddefnyddio i ddatblygu dulliau newydd o wneud pethau, syniadau, cynhyrchion a gwasanaethau. Mae arloesedd sydd wedi'i arwain gan wasanaethau cyhoeddus yn galluogi’r sector cyhoeddus i ddarparu gwasanaethau mwy effeithiol ac effeithlon ac yn rhoi mwy o gyfle i fusnesau gynhyrchu atebion arloesol ar gyfer y sector cyhoeddus. Nid dim ond gwned y gorau o syniadau newydd yw arloesi ond hefyd bod yn barod i brofi a rhoi cynnig ar rywbeth newydd, sydd ddim yn sicr o weithio, ond sydd â’r potensial i wneud newid cynaliadwy a dylanwadol yn realiti.
Beth mae'r tîm Arloesi yn ei wneud?
Rydym yn gweithio gyda chydweithwyr ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf i nodi, archwilio a chyflwyno syniadau a dulliau gweithredu newydd am weithgareddau. Rydym yn arbenigo mewn prototeipio digidol a ffisegol cyflym o gynnyrch newydd yn seiliedig ar syniadau gan staff ond hefyd yn gweithio ar draws cynaliadwyedd, ailgylchu a chefnogi dulliau newydd o fynd i'r afael â hen broblemau.
Pwy ydych chi'n ei gefnogi?
Mae tîm Arloesedd CTM yn cefnogi gweithgaredd arloesol ar draws Cwm Taf Morgannwg gan weithio gyda chydweithwyr ar draws iechyd a gofal cymdeithasol, awdurdodau lleol a’r 3ydd sector, Prifysgolion; busnesau a Llywodraeth Cymru i adeiladu a galluogi diwylliant o arloesi drwy bobl ymroddgar a brwdfrydig.
Sut i weithio gyda chi?
Gall dulliau arloesol yn gallu bod yn eang ac amrywiol, a felly hefyd y cymorth y gall y tîm bach sydd gennym ei ddarparu. Mae hyn yn cynnwys pethau ymarferol fel cefnogi ceisiadau, ysgrifennu astudiaethau achos, nodi cyfleoedd ariannu ochr yn ochr â chysylltu â Sefydliadau Arloesedd Cymru Gyfan fel yr Hwb Gwyddorau Bywyd.
Gallwch gysylltu â’r tîm Arloesedd trwy gyflwyno syniad neu her arloesol drwy borth Syniadau Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf.
Dolenni i Sefydliadau Eraill
Hwb Gwyddor Bywyd Cymru
Agor IP
Academïau Dysgu Dwys (PDC / Bangor / Abertawe / Caerdydd)
SAU/
Astudiaethau Achos Arloesedd