Uchafbwyntiau'r Cyfarfod: Cyfarfod Grŵp Gweithio Diogelu Iechyd Cymunedol a Brechu 30 Medi 2025
Pwrpas y Cyfarfod:
Adolygu a chasglu adborth ar dri chysyniad ymgyrch gyfathrebu arfaethedig i gynyddu nifer y bobl sy’n cael brechlyn ffliw a COVID ar draws Cwm Taf Morgannwg, yn enwedig ymhlith grwpiau sy’n agored i niwed.
Mynychwyr:
- Natasha Weeks (CTM UHB - Corporate Governance)
- Frances Samuel (Cwm Taf Morgannwg - Public Health)
- Brian Powell
- Yvonne Peters (Unverified)
- Lisa Wills
- Lauren Ware (CTM UHB - Innovation)
- Tracie Sengul
- Sara Thornton (CTM UHB - Health Protection)
- Rosie Hagland (Cwm Taf Morgannwg - Executive Office)
- Montague, Ashton
- Emily
- Claire Thomas (CTM UHB - All Hazards Health Protection)
- Kelly Parfitt (CTM UHB - Primary & Community Care)
- Caitlin Mason (Cwm Taf Morgannwg - Public Health Team)
- Katy Williams
- Laura Dadic
- Shannon Davies - Mothers Matter (Unverified)
- Rhianydd Davey (CTM UHB - Community Resource Team)
- Katy Mothers Matter (Unverified)
- Mae'n Cymuned Gyfan
- Yn canolbwyntio ar ysbryd cymunedol a diogelu ei gilydd.
- Yn defnyddio pobl leol go iawn mewn lleoliadau cyfarwydd (e.e. gatiau ysgol, siopau, caeau rygbi).
- Mwy Na Fi
- Dull seiliedig ar adrodd straeon sy'n dangos cymhellion personol dros gael y frechlyn.
- Yn pwysleisio diogelu anwyliaid a'r gymuned ehangach.
- Ein Amddiffyniad Gorau
- Cysyniad â thema rygbi s'yn amlygu diogelu a gwaith tîm.
- Tôn chwareus gyda delweddau o glybiau lleol a chwaraeon cymunedol.
Spin-off rygbi - yn berthnasol i'r 3 llwybr.
- Cefnogaeth gref i'r cysyniadau “Mae’n Cymuned Gyfan” a “Mwy na Fi”. Roedd “Mae’n Cymuned Gyfan” ychydig yn fwy poblogaidd fel cysyniad.
- Awgrym i uno'r ddau gysyniad i greu ymgyrch unedig sy'n adlewyrchu cyfrifoldeb cymunedol a phersonol.
- Barn gymysg ar thema rygbi :
- Teimlai rhai ei fod yn gynhwysol ac yn taro deuddeg.
- Rhai eraill yn rhybuddio nad yw’n apelio at bawb ac yn awgrymu ehangu i weithgareddau corfforol eraill (e.e. bowlio, grwpiau cerdded).
- Hygyrchedd: Pwysigrwydd cynnwys cyfieithiad BSL a sicrhau bod y deunyddiau’n gynhwysol i gymunedau byddar.
- Perthnasedd lleol: Pwyslais ar ddefnyddio mannau adnabyddus lleol a phobl go iawn i feithrin ymddiriedaeth ac adnabod.
Mannau lleol ychwanegol a awgrymwyd ac wedi’u hychwanegu at y Rhestr Feistr
- Llyfrgell Tonypandy
- Maes Bowlio Pontyclun
- Clwb Rygbi Llanharan
- Llyfrgell a Parc Aberdâr (Pedalos)
- Sgwâr Merthyr, Ardal Hamdden (Sinema, Lle Bowlio)
- Seddi awyr agored ger Caffi Bradley's
- Lleoliadau ychwanegol ym Mhen-y-bont i'w cadarnhau
Camau a Gytunwyd
- JamJar i brofi uno’r cysyniadau ‘Mae’n Cymuned Gyfan’ a ‘Mwy Na Fi’ ac i baratoi delweddau wedi’u diweddaru.
- Pob aelod i:
- Cyflwyno mannau lleol ychwanegol a syniadau am weithgareddau corfforol erbyn diwedd y diwrnod ar 1 Hydref 2025: CTM.Enquiries.HP@wales.nhs.uk
- Nodi unigolion ar gyfer ffotograffiaeth yr ymgyrch a chyfleoedd ar gyfer astudiaethau achos lleol (profiadau personol o COVID a Ffliw) a chwblhau Ffurflenni Caniatâd
- Rhannu unrhyw luniau personol o ardaloedd lleol ac astudiaethau achos ar gyfer defnydd posibl: CTM.Enquiries.HP@wales.nhs.uk
- Tracie Sengul wedi cynnig cefnogaeth gyda chyfieithiad BSL a chynllunio hygyrchedd – bydd hyn yn cael ei drafod yn fanylach unwaith y bydd y cysyniadau wedi’u terfynu.
- Erbyn 7 Hydref - Bydd y cysyniadau terfynol yn cael eu rhannu ar gyfer cymeradwyaeth derfynol. Byddant yn cael eu rhannu drwy e-bost ac yn cael eu huwchlwytho i dudalen we brechu cymunedol – BIP CTM a'r Grŵp Gwaith Cymunedol - Brechu a Diogelu Iechyd
- Cyfarfod Nesaf - 14 OHydref - Agenda i ddilyn.