Neidio i'r prif gynnwy

 Crynodeb o'r Prif Themâu – Fforwm Arweinwyr Cymunedol (Ebrill 2025) 

Agweddau Cadarnhaol ar Fynediad i Frechu'r Gaeaf: 

  • Ymwybyddiaeth: Helpodd COVID-19 i normaleiddio brechu a gwella dealltwriaeth o fanteision. 
  • Mynediad: Brechlynnau yn cael eu cynnig mewn amrywiaeth o fathau o leoliadau. Roedd archebu ar-lein wedi gwella hwylustod. 
  • Cymorth System: Roedd brechlynnau am ddim, nodiadau atgoffa, ac apwyntiadau dilynol yn cefnogi’r nifer yn derbyn brechiadau’n amserol. 

 

Heriau a nodwyd: 

  • Poblogaethau Agored i Niwed: Rhwystrau i'r rhai sydd angen caniatâd neu sy'n byw ar eu pen eu hunain. 
  • Problemau Gweithredol: Prinder stoc, oedi cynllunio, a bylchau wrth rannu data. 
  • Ymddiriedaeth a Hyder: Roedd diffyg ymddiriedaeth mewn sefydliadau a chamwybodaeth yn lleihau hyder. 
  • Rhwystrau Mynediad: Teithio, amserlennu, a heriau diwylliannol/daearyddol. 
  • Bylchau Cyfathrebu: Negeseuon cymysg a chamwybodaeth, yn enwedig trwy'r cyfryngau cymdeithasol. 

 

Rôl Arweinwyr Cymunedol wrth Siapio'r Cynllun: 

  • Dulliau Cymunedol: Grymuso hyrwyddwyr lleol a lleisiau dibynadwy. 
  • Partneriaethau: Cydweithio â sefydliadau lleol a defnyddio lleoliadau sydd gyda nifer uchel o ymwelwyr. 
  • Negeseuon Dibynadwy: Defnyddio ffigurau cyfarwydd i chwalu mythau a hyrwyddo gwasanaethau. 
  • Allgymorth rhagweithiol: Ymgysylltu ag ysgolion, oedolion hŷn, a grwpiau cymunedol yn uniongyrchol. 

 

Beth fydd yn helpu i gynyddu’r nifer o bobl sy’n cael brechiadau: 

  • Hygyrchedd: Darparu gwasanaethau mewn lleoliadau cyfarwydd, cyfleus. 
  • Ymgysylltu: Adeiladu ymddiriedaeth trwy fodelau rôl a lleoliadau lleol. 
  • Cyfathrebu: Defnyddio cyfryngau cymdeithasol, codau QR, negeseuon clir, a fframio emosiynol. 
  • Addysg: Hyfforddi unigolion dibynadwy a rhannu gwybodaeth gywir. 

 

Rhwystrau i Gynllun Gaeaf Llwyddiannus: 

  • Oedi wrth Hyrwyddo: Angen marchnata cryfach, nad yw'n benodol i COVID. 
  • Problemau Logistaidd: Trafnidiaeth, daearyddiaeth, ac oedi apwyntiadau. 
  • Data a Chyllid: Diffyg systemau unedig ac eglurder cyllid. 
  • Crynodeb o'r Prif Themâu – Fforwm Arweinwyr Cymunedol (Ebrill 2025) 
  • Anghenion Demograffig: Dulliau wedi'u teilwra ar gyfer grwpiau agored i niwed. 
  • Rhwystrau Systemig: Iechyd meddwl, problemau TG, a diffyg ymddiriedaeth sefydliadol. 

 

Angen cefnogaeth gan BIP CTM: 

  • Negeseuon Clir: Defnyddio iaith syml, berthnasol a Chwestiynau Cyffredin. 
  • Allgymorth Hyblyg: Cwrdd â phobl lle maen nhw. 
  • Hyfforddiant: Addysg wedi'i deilwra ar gyfer gweithwyr proffesiynol a ffigurau cymunedol. 
  • Llywio'r System: Arwyddion clir a mynediad symlach at wasanaethau brechu.