Neidio i'r prif gynnwy

Hysbysiadau Cyfarfodydd Cyd-Bwyllgor Rhanbarthol

Cyd-Bwyllgor Rhanbarthol De-Ddwyrain Cymru (RJC)

Bydd cyfarfod agoriadol yr RJC yn cael ei gynnal ar 19 Tachwedd 2025. Bydd y sesiwn gyhoeddus yn dechrau am 15:45yp. Cynhelir y cyfarfod yn y Ganolfan Iechyd Genomig Cymru, Parc Busnes Cardiff Edge, Longwood Drive, Yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 7YU.

Bydd cyfarfodydd yr RJC yn cael eu cynnal yn gyhoeddus, ac felly mae croeso i aelodau’r cyhoedd fynychu’n bersonol i wylio’r cyfarfod.

Bydd cyfarfod yr RJC hefyd yn cael ei recordio ac yn cael ei lwytho i’n gwefan cyn gynted â phosibl ar ôl y cyfarfod.

Os hoffech ragor o wybodaeth, neu os oes gennych ddiddordeb mewn gwylio cyfarfod cyhoeddus y RJC yn bersonol, gofynnwn i chi gofrestru eich diddordeb o leiaf dair diwrnod gwaith cyn y cyfarfod, drwy gysylltu â: CTM_Corporate_Governance@wales.nhs.uk

Os hoffech wylio unrhyw gyfarfod o’r RJC ac mae arnoch angen cyfieithu ar y pryd i’r Gymraeg neu Iaith Arwyddion Prydain (BSL), cysylltwch â CTM_Corporate_Governance@wales.nhs.uk

o leiaf dair diwrnod gwaith cyn y cyfarfod, ac fe wnawn ein gorau i ddarparu’r gwasanaeth hwn.

Gan fod yr RJC yn “cwrdd yn gyhoeddus”, mae’n bwysig nodi nad cyfarfod cyhoeddus mohono. Mewn cyfarfod cyhoeddus, gellir gofyn cwestiynau yn ystod y cyfarfod, ond mewn cyfarfod sy’n cael ei gynnal yn gyhoeddus, caiff cwestiynau eu hateb ar ôl i’r holl eitemau ar yr agenda gael eu trafod.

Er mwyn hwyluso hyn, rydym yn croesawu cwestiynau ymlaen llaw hyd at dair diwrnod gwaith cyn y cyfarfod, fel y gellir darparu ymatebion cywir mewn modd amserol.

Anfonwch unrhyw gwestiynau sy’n ymwneud ag eitemau ar yr agenda drwy e-bost at: CTM_Corporate_Governance@wales.nhs.uk.

Bydd yr ymatebion yn cael eu darparu ar ddiwedd y cyfarfod.

Gall y Cadeirydd, yn ôl ei ddisgresiwn, benderfynu a ddylid derbyn cwestiynau gan y cyhoedd ar ddiwrnod y cyfarfod. O dan yr amgylchiadau hynny, mae’r Bwrdd yn cadw’r hawl i ohirio darparu ymateb, er mwyn sicrhau cywirdeb a gwirio gwybodaeth, fel arfer o fewn saith diwrnod gwaith.

Gellir dod o hyd i’r agenda a’r papurau ar gyfer pob cyfarfod yma Regional Joint Committee Meeting Papers - Cwm Taf Morgannwg University Health Board saith diwrnod cyn y cyfarfod.