Cyfarwyddwr Digidol
Cyfarwyddwr Digidol
Ymunodd Stuart â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg fel Cyfarwyddwr Digidol ym mis Rhagfyr 2021.
Gyda mwy na 22 mlynedd o brofiad, yn gweithio’n genedlaethol ac yn rhyngwladol ar draws Gwasanaethau Gwaed a Chanser, roedd Stuart yn gyfrifol am arweinyddiaeth strategol gwasanaethau digidol ar draws Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre ers 2017.
Yn ystod yr amser hwnnw, adeiladodd Stuart berthnasoedd gwaith cryf gyda chydweithwyr o bob agwedd ar GIG Cymru, academia a diwydiant.
Fel aelod o’r Grŵp Arweinyddiaeth Cyflenwi Digidol ar gyfer GIG Cymru, mae Stuart yn brofiadol wrth ddatblygu rhaglenni trawsnewid digidol, ac yn gynnar yn 2018 datblygodd Stuart Cognitive by Design, sef gweledigaeth ddigidol lefel uchel ar gyfer sut y gall Felindre chwarae ei ran mewn ail-drefnu gofal ar gyfer canser yn Ne Ddwyrain Cymru, a oedd yn cynnwys gweledigaeth ddigidol o'r radd flaenaf ar gyfer Canolfan Ganser Felindre.
Yn 2020, daeth Stuart yn un o'r gweithwyr cyntaf o fewn GIG Cymru i ymuno â’r NHS Digital Academy Alumni yng Ngholeg Imperial Llundain, ac mae'n chwarae rhan arweiniol wrth ddatblygu galluoedd digidol ledled GIG Cymru.
Yn ystod haf 2021, ar ran arweinwyr digidol ledled De Ddwyrain Cymru, Stuart oedd arweinydd y GIG a ddatblygodd gynnig llwyddiannus ar gyfer Academi Dysgu Dwys Ddigidol genedlaethol fydd yn lansio yn yr hydref eleni.