Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Ymgysylltu a Chodi Arian
Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Ymgysylltu a Chodi Arian
Ymunodd Simon â'r GIG yn 2005 ac mae wedi arwain adrannau cyfathrebu ac ymgysylltu ar gyfer sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau gofal acíwt, gofal sylfaenol, a gofal yn y gymuned, Iechyd Meddwl Pobl Hŷn (OPMH) ac anableddau dysgu.
Ymunodd â BIP CTM fel Ymgynghorydd Cyfathrebu Strategol yn 2022 a chafodd ei benodi yn Gyfarwyddwr Cyfathrebu, Ymgysylltu a Chodi Arian ym mis Gorffennaf 2023. Yn flaenorol, roedd Simon yn Gyfarwyddwr Cyswllt Cyfathrebu Ymddiriedolaeth Sefydledig y GIG Ysbyty Dosbarth Yeovil yng Ngwlad yr Haf, Lloegr, ac yn Gyfarwyddwr Cyswllt Cyfathrebu Ymddiriedolaeth Gofal Torbay yn Nyfnaint, Lloegr, un o'r sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol integredig cyntaf yn y wlad.
Mae ganddo brofiad helaeth o arwain rhaglenni cyfathrebu ac ymgysylltu mewnol ac allanol cymhleth, ac mae'n enillydd blaenorol Gwobr Rheoli Enw Da Gorau GIG Lloegr.
Cyn ymuno â'r GIG, bu Simon yn rheoli cyfathrebu mewnol gyda Heddlu Dyfnaint a Chernyw ac yn gweithio fel newyddiadurwr ac ysgrifennwr copi.